Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, delighted to hear about a new initiative to enhance the beauty of Abergele.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of the environment and improving our town centres, has welcomed exciting plans unveiled by the Abergele Conservation Trust.
He said:
I was delighted to hear about the announcement of the project ‘Abergele in Bloom’ initiative for 2024 as I believe it is a great way to bring together the community and also help enhance the reputation of the town.
It really is a fantastic project for Abergele and I will be more than happy to support the venture anyway I can.
It is good to hear the trust is setting its sights on the prestigious ‘It’s Your Neighbourhood’ award which ultimately promotes the town and encourages everyone to get involved with environmental conservation and community involvement.
I would urge anyone interested in getting involved to get in touch with organisers as soon as possible.
‘Abergele in Bloom’ is a community-driven initiative dedicated to promoting environmental stewardship, community engagement, and a grassroots garden revolution for Abergele.
Inspired by the success story of Pensarn in Bloom, they want to work with town gardens to achieve their goal for 2024 to earn the 'It's Your Neighbourhood' recognition, a prestigious award recognising communities that have made remarkable strides in environmental conservation and community involvement.
Cllr Pauline Heap-Williams, trustee of Abergele Conservation Trust said:
We are thrilled to introduce 'Abergele in Bloom' and embark on this journey towards 'It's Your Neighbourhood' recognition.
We invite all Abergele residents to join us in this endeavour, as we work hand in hand to make our town even more beautiful and environmentally responsible.
Abergele Conservation Trust is now calling on volunteers, local businesses, and organisations to participate and support their initiative.
For more information on how you can get involved with 'Abergele in Bloom,' please email [email protected]
Sam Rowlands AS yn cefnogi prosiect cyffrous i dref yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wrth ei fodd yn clywed am fenter newydd i wella harddwch Abergele.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd yr amgylchedd a gwella canol ein trefi, wedi croesawu cynlluniau cyffrous a ddatgelwyd gan Ymddiriedolaeth Gadwraeth Abergele.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o glywed am gyhoeddiad y fenter ‘Abergele yn ei Blodau’ ar gyfer 2024 gan fy mod yn credu ei bod yn ffordd wych o ddod â'r gymuned at ei gilydd a helpu i wella enw da'r dref.
Mae'n brosiect gwych i Abergele a byddaf yn fwy na pharod i gefnogi'r fenter sut bynnag y gallaf.
Mae'n dda clywed bod yr ymddiriedolaeth yn ceisio cipio’r wobr fawreddog 'It's Your Neighbourhood' sy’n hyrwyddo'r dref yn y pen draw ac yn annog pawb i gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gysylltu â’r trefnwyr cyn gynted â phosib.
Mae ‘Abergele yn ei Blodau’ yn fenter gymunedol sy'n ymroddedig i hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol, ymgysylltu â'r gymuned, a chwyldro gardd ar lawr gwlad i Abergele.
Wedi'u hysbrydoli gan lwyddiant Pensarn yn ei Blodau, maen nhw am weithio gyda gerddi’r dref i gyflawni eu nod ar gyfer 2024 i ennill cydnabyddiaeth ‘It’s Your Neighbourhood’, gwobr fawr ei bri sy'n cydnabod cymunedau sydd wedi cymryd camau breision o ran cadwraeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.
Meddai’r Cynghorydd Pauline Heap-Williams, ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Abergele:
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno ‘Abergele yn ei Blodau’ a chychwyn ar y daith hon tuag at gydnabyddiaeth ‘It's Your Neighbourhood’.
Rydyn ni’n gwahodd holl drigolion Abergele i ymuno â ni yn yr ymdrech hon, wrth i ni weithio law yn llaw i wneud ein tref hyd yn oed yn fwy prydferth ac yn amgylcheddol gyfrifol.
Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Abergele yn galw ar wirfoddolwyr, busnesau lleol a sefydliadau yn awr i gymryd rhan a chefnogi eu menter.
Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yn ‘Abergele yn ei Blodau’, e-bostiwch [email protected]