Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging those interested in local history to attend a special sale of books and maps at the North East Wales Archives this Saturday.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of local history said:
The archives based in the Old Rectory in Hawarden will be opening its doors to sell items including books, maps and postcards which have been collected since it first opened 69 years ago.
What a wonderful opportunity to browse and buy a little bit of history of Flintshire. Included in the sale will be duplicate original OS maps from the 1870’s to the 1960’s which will show how the local area has developed over the years.
There will be lots of fascinating items for sale and it will be well worth calling in as you just might pick up something of interest.
The grand book and map sale, which will be sold for cash only, is being held at North East Wales Archives. NEWA, Hawarden, on Saturday April 22, 10am to 1pm.
Browse and buy: books galore – not just history, but general interest and some fiction; postcards of historic Flintshire scenes; duplicate original historic OS maps from the 1870s up to the 1960s - you might be lucky enough to find one of your house or local area! Some oddities for sale include gramophone records and school magazines from the prestigious boarding school Lowther College, at Bodelwyddan Castle.
Volunteers in the Conservation studio will also be demonstrating how they make bespoke packaging to protect irreplaceable archives. If you are interested in joining us as a volunteer, or just want to see what they have been up to, please come along and see us on the day! Box making demos: 10.30am and 12pm.
There will be tea, coffee and cakes on sale so you can come along, browse, chat and enjoy a cuppa in the peaceful surroundings of the Old Rectory. Just remember it is cash only on the day.
The proceeds will go into our donations fund towards more protective packaging materials for the irreplaceable archives.
Sam Rowlands AS yn cefnogi arwerthiant llyfrau a mapiau o archifdy Penarlâg
Mae Sam Rowlands, Aelod Senedd Cymru dros y Gogledd, yn annog y rhai sydd â diddordeb mewn hanes lleol i fynd i arwerthiant arbennig o lyfrau a mapiau yn Archifau’r Gogledd Ddwyrain y Sadwrn yma.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol sy’n ymddiddori’n frwd mewn hanes lleol:
Bydd yr archifdy sydd wedi’i leoli yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg yn agor ei ddrysau i werthu eitemau, gan gynnwys llyfrau, mapiau a chardiau post sydd wedi eu casglu ers ei agor gyntaf 69 mlynedd yn ôl.
Dyma gyfle gwych i brynu a phori drwy ychydig o hanes Sir y Fflint. Bydd copïau o fapiau ordnans gwreiddiol ar werth o'r 1870au hyd at yr 1960au gan roi cyfle i chi weld sut mae'r ardal leol wedi datblygu dros y blynyddoedd.
Bydd llawer o eitemau hynod o ddifyr ar werth a bydd yn werth galw heibio gan y gallech ddod ar draws rhywbeth diddorol iawn.
Bydd yr arwerthiant llyfrau a mapiau arbennig hwn yn derbyn arian parod yn unig, a bydd yn cael ei gynnal yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Penarlâg, ddydd Sadwrn 22 Ebrill, 10am - 1pm.
Cyfle i bori a phrynu: llond gwlad o lyfrau - nid dim ond hanes – bydd yno rai o ddiddordeb cyffredinol a rhywfaint o ffuglen; cardiau post o olygfeydd hanesyddol Sir y Fflint; copïau o fapiau ordnans hanesyddol gwreiddiol o'r 1870au hyd at y 1960au - efallai y byddwch yn ddigon ffodus i ddod o hyd i un o'ch tŷ neu eich ardal leol chi! Bydd rhai pethau go hynod ar werth yn cynnwys recordiau gramoffon a chylchgronau ysgol o ysgol breswyl fawreddog Lowther College, yng Nghastell Bodelwyddan.
Hefyd, bydd gwirfoddolwyr yn y stiwdio Gadwraeth yn dangos sut maen nhw'n creu deunydd pecynnu pwrpasol i ddiogelu archifau cwbl unigryw. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni fel gwirfoddolwr, neu os hoffech chi weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud, galwch draw ar y diwrnod! Gwneud blychau arddangos: 10.30am a 12pm.
Bydd te, coffi a chacennau ar werth, felly mae cyfle i alw heibio, pori a darllen, sgwrsio a mwynhau paned yn amgylchedd tawel yr Hen Reithordy. Cofiwch mai dim ond arian parod fydd yn cael ei dderbyn.
Bydd yr elw’n mynd i'n cronfa roddion i brynu mwy o ddeunyddiau pecynnu amddiffynnol ar gyfer yr archifau arbennig ac unigryw.