Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to get involved with tidying up their local beaches.
Mr Rowlands, a keen supporter of improving the environment and keeping the coast free from litter said:
This week is The Great British Beach Clean and the Marine Conservation Society is calling on us all to do our bit to help protect the environment and help pick up litter on our local beaches.
I think it is a wonderful campaign as it is fantastic to see people working together to make a difference in their communities and it can also be good fun.
Litter continues to blight our local environment, especially on our coastal areas and I think it is vitally important we all take responsibility to collect and safely dispose of it from our streets, green spaces and beaches.
There are several beach cleans planned this week in Rhyl, Prestatyn, Abergele and Kinmel Bay and I am looking forward to doing my bit this weekend and I would urge everyone to set aside some time and get involved.
The Great British Beach Clean, which is currently underway and runs until Sunday September 24 is a week-long citizen science event, where hundreds of beach cleans take place up and down the UK.
With the help of supporters, The Marine Conservation Society is working to clean up beaches all around the UK and Northern Ireland. Every year in September, we run our flagship Great British Beach Clean event to encourage people to get involved.
Litter data collected on beach cleans drives its conservation work, helps to campaign for change, and also feeds into the International Coastal Clean-up (ICC).
The data has been used to make a positive impact on our ocean - including the introduction of the plastic bag charge, banning microplastics in personal care products, better wet wipe labelling, and supporting a tax on single-use plastic items.
Sam Rowlands AS yn cefnogi The Great British Beach Clean 2023
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gyfrannu at dacluso eu traethau lleol.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr brwd o wella'r amgylchedd a chadw'r arfordir yn rhydd o sbwriel:
Cynhelir The Great British Beach Clean yr wythnos hon ac mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn galw ar bob un ohonom ni i wneud ein rhan i helpu i ddiogelu'r amgylchedd a helpu i gasglu sbwriel ar ein traethau lleol.
Rwy'n credu ei bod yn ymgyrch arbennig gan ei bod yn wych gweld pobl yn gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau a gall hefyd fod yn dipyn o hwyl.
Mae sbwriel yn parhau i amharu ar ein hamgylchedd lleol, yn enwedig ar ein hardaloedd arfordirol ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb i'w gasglu a'i waredu'n ddiogel o'n strydoedd, ein mannau gwyrdd a'n traethau.
Mae nifer o sesiynau glanhau traethau ar y gweill yr wythnos hon yn y Rhyl, Prestatyn, Abergele a Bae Cinmel ac rwy'n edrych ymlaen at wneud fy rhan y penwythnos hwn a byddwn yn annog pawb i neilltuo amser a chymryd rhan.
Mae The Great British Beach Clean, sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd ac yn para tan ddydd Sul Medi 24 yn ddigwyddiad gwyddoniaeth dinasyddion wythnos o hyd, lle mae cannoedd o sesiynau glanhau traethau yn digwydd ar hyd a lled y DU.
Gyda chymorth cefnogwyr, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gweithio i lanhau traethau ledled y DU a Gogledd Iwerddon. Bob blwyddyn ym mis Medi, rydyn ni’n cynnal ein digwyddiad Great British Beach Clean i annog pobl i gymryd rhan.
Mae data sbwriel sy'n cael ei gasglu ar lanhau traethau yn llywio ei gwaith cadwraeth, yn helpu i ymgyrchu dros newid, a hefyd yn cyfrannu at yr International Coastal Clean-up (ICC).
Defnyddiwyd y data i gael effaith gadarnhaol ar ein cefnfor - gan gynnwys cyflwyno'r tâl am fagiau plastig, gwahardd microblastigau mewn cynhyrchion gofal personol, labelu weips yn well, a chefnogi treth ar eitemau plastig untro.