Sam Rowlands Member of Welsh Parliament for North Wales is urging women in his region to be more aware of ovarian cancer.
Sam Rowlands, Member of Welsh Parliament for North Wales, is backing Gynaecological Cancer Awareness Month.
He said:
I am pleased to back any campaign which increases awareness of ovarian cancer. Each year 300 women in Wales are diagnosed with this but with early diagnosis lives can be saved.
September is Gynaecological Cancer Awareness Month and I am happy to support this campaign to highlight the symptoms and urge women to make sure they see a doctor if they are concerned.
It is vitally important for women to be tested. I would urge them to makes sure they are regularly checked out as it just might save your life.
September 1-30 is Gynaecological Cancer Awareness Month and each year gynaecological cancer charities join together to raise awareness of cervical cancer and other gynaecological cancers.
There are approximately 3,200 new cases of cervical cancer in the UK every year, which works out at nearly nine new cases a day. But statistics don’t tell the full story or show the impact that cervical cancer can have on real lives.
There are five gynaecological cancers: womb, ovarian, cervical, vulval and vaginal, which together affect over thousands of women every year and the charities want to raise awareness of those affected by cervical cancer.
Everyone needs to be aware of the symptoms for ovarian cancer which are increased abdominal size and persistent bloating (not bloating that comes and goes); persistent pelvic and abdominal pain; unexplained change in bowel habits and difficulty eating and feeling full quickly, or feeling nauseous.
If you have been suffering from any of these then it is worth booking an appointment with your local GP.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru yn annog menywod yn ei ranbarth i fod yn fwy ymwybodol o ganser yr ofari.
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol.
Meddai:
Rwy'n falch o gefnogi unrhyw ymgyrch sy'n codi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari. Bob blwyddyn mae 300 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o hyn, ond gyda diagnosis cynnar gellir achub bywydau.
Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol ac rwy'n hapus i gefnogi'r ymgyrch hon i dynnu sylw at y symptomau ac annog menywod i sicrhau eu bod yn gweld meddyg os ydyn nhw'n poeni.
Mae'n hanfodol bwysig bod menywod yn cael eu profi. Byddwn yn eu hannog i sicrhau eu bod yn cael eu harchwilio'n rheolaidd oherwydd fe allai achub eu bywydau.
1-30 Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol a bob blwyddyn mae elusennau canser gynaecolegol yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth a chanserau gynaecolegol eraill.
Mae tua 3,200 o achosion newydd o ganser ceg y groth yn y DU bob blwyddyn, sy'n cyfateb i bron i naw achos newydd y dydd. Ond dydy ystadegau ddim yn dweud y stori lawn nac yn dangos yr effaith y gall canser ceg y groth ei chael ar fywydau go iawn.
Mae pum canser gynaecolegol: y groth, yr ofari, cerfigol, fylfol a'r wain, sydd gyda'i gilydd yn effeithio ar dros filoedd o fenywod bob blwyddyn ac mae elusennau addysg uwch eisiau codi ymwybyddiaeth o'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser ceg y groth.
Mae angen i bawb fod yn ymwybodol o symptomau canser yr ofari, sef yr abdomen yn tyfu a theimlo’n llawn drwy’r amser (dim chwyddo sy’n mynd a dod); poen parhaus yn y pelfis a'r abdomen; newid anesboniadwy yn arferion y coluddyn a thrafferthion bwyta a theimlo'n llawn yn gyflym, neu deimlo'n gyfoglyd.
Os ydych chi wedi bod yn dioddef o unrhyw un o'r rhain, yna mae'n werth trefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu lleol.