Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed free employment support and advice across Denbighshire.
He is supporting Denbighshire County Council’s Working Denbighshire team, who are holding over 12 hours a week of drop-in sessions across the region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of any initiatives to help people find employment said:
These free drop-ins are a great idea for those seeking to find work but need support and guidance to help them in their quest.
It really is an excellent initiative and I am delighted to see the sessions are being offered every week across the whole of Denbighshire.
Working Denbighshire received £3,529,632 from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund so I am pleased to see some of this money used for schemes such as these and I would urge anyone seeking employment support to make sure they attend one of the venues.
The series of drop-in sessions are being held from Tuesday to Friday at locations across the county on a weekly basis.
The support available at each session includes help to search for jobs, update CV’s, prepare for interviews, basic IT support and filling in applications.
Working Denbighshire’s staff will be on hand for guidance and support at the following locations each week: Tuesday – Rhyl Library, 2pm-4pm; Wednesday – Canolfan Ni, Corwen, 11am-1pm; Thursday – Denbigh HWB, 9:30am-1pm; Thursday – Ruthin Library, 1pm-4pm; Friday – Prestatyn Library, 9:30am-12:30pm; Friday – Denbigh HWB, 9:30am – 1pm.
Tina Foulkes from Working Denbighshire said:
These free weekly drop-in sessions provide an excellent opportunity for Denbighshire residents to access high quality employability support in their local communities. Residents can pop in for help to update or create their CV, find out the best ways to search for jobs and get hints and tips on how best to fill out application forms.
At these sessions, attendees will also be able to find out how Working Denbighshire can help with funding for training, funding to remove or reduce your barriers to employment, as well as information on confidence, motivation, and resilience courses.
For more information please contact [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter i bobl sydd angen help i ddod o hyd i waith yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu cefnogaeth a chyngor cyflogaeth am ddim ledled Sir Ddinbych.
Mae'n cefnogi tîm Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor, sy'n cynnal dros 12 awr yr wythnos o sesiynau galw heibio ar draws y rhanbarth.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd unrhyw fentrau i helpu pobl i ddod o hyd i waith:
Mae'r sesiynau galw heibio am ddim hyn yn syniad gwych i'r rhai sy'n ceisio dod o hyd i waith ond mae angen cymorth ac arweiniad arnyn nhw i'w helpu.
Mae'n fenter wirioneddol wych ac rwy'n falch iawn o weld bod y sesiynau'n cael eu cynnig bob wythnos ar draws Sir Ddinbych i gyd.
Cafodd Sir Ddinbych yn Gweithio £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU felly dwi'n falch o weld rhywfaint o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau fel y rhain a byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am gymorth cyflogaeth i wneud yn siŵr eu bod yn mynd i un o'r lleoliadau.
Mae'r gyfres o sesiynau galw heibio’n cael eu cynnal o ddydd Mawrth i ddydd Gwener mewn lleoliadau ar hyd a lled y sir bob wythnos.
Mae'r cymorth sydd ar gael ym mhob sesiwn yn cynnwys help i chwilio am swyddi, diweddaru CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, cymorth TG sylfaenol a llenwi ceisiadau.
Bydd staff Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law i roi arweiniad a chymorth yn y lleoliadau canlynol bob wythnos: Dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl, 2pm-4pm; Dydd Mercher – Canolfan Ni, Corwen, 11am-1pm; Dydd Iau – HWB Dinbych, 9:30am-1pm; Dydd Iau – Llyfrgell Rhuthun, 1pm-4pm; Dydd Gwener – Llyfrgell Prestatyn, 9:30am-12:30pm; Dydd Gwener – HWB Dinbych, 9:30am-1pm.
Meddai Tina Foulkes o Sir Ddinbych yn Gweithio:
Mae'r sesiynau galw heibio wythnosol am ddim hyn yn gyfle gwych i drigolion Sir Ddinbych gael gafael ar gymorth cyflogadwyedd o ansawdd uchel yn eu cymunedau lleol. Gall preswylwyr alw heibio i gael help i greu neu ddiweddaru eu CV, cael gwybod beth yw’r ffyrdd gorau o chwilio am swyddi a chael awgrymiadau ar y ffordd orau o lenwi ffurflenni cais.
Yn y sesiynau, bydd mynychwyr yn gallu cael gwybod hefyd sut y gall Sir Ddinbych yn Gweithio helpu gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant, cyllid i ddileu neu leihau eich rhwystrau i gyflogaeth, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau hyder, cymhelliant a chadernid.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].