Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, welcomes measures to improve public safety in Denbigh town centre.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I am delighted to see that new CCTV cameras will be installed in the town centre thanks to a £55,687 grant from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund which is part of the Levelling Up agenda.
Levelling Up was planned to replace EU funding, and I’m pleased to see the UK Government’s Levelling Up agenda benefitting the community by helping to keep our streets safer for the public.
I am also pleased to see that Denbigh will now be able to link up with the Denbighshire CCTV Partnership which already includes town councils in Rhyl, Rhuddlan and Prestatyn.
Five new CCTV cameras will be installed in Denbigh town centre, increasing the number of camera locations to include Lenton Pool and Vale Street lights.
The project will also upgrade the town’s existing cameras with newer models that provide higher quality images for better security.
The project is a joint initiative between Denbighshire County Council and Denbigh Town Council which has received £55,687 from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund.
Once installed the cameras will form part of the Denbighshire CCTV Partnership, a collaboration which currently comprises of Denbighshire County Council, North Wales Police and the town councils of Prestatyn, Rhuddlan and Rhyl. Cameras across the Partnership network benefit from 24-hour reactive monitoring through a central CCTV control room with links to North Wales Police.
Sergeant Mark Jones, from North Wales Police’s Neighbourhood Policing Team, said:
These new cameras will be extremely beneficial in extending our coverage in Denbighshire and help further reduce crime and disorder.
Sam Rowlands AS yn cefnogi gosod camerâu CCTV newydd yn Ninbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn croesawu mesurau i wella diogelwch y cyhoedd yng nghanol tref Dinbych.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Rwy'n falch iawn o weld y bydd camerâu cylch cyfyng newydd yn cael eu gosod yng nghanol y dref diolch i grant o £55,687 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU sy'n rhan o'r agenda Ffyniant Bro.
Cynlluniwyd Ffyniant Bro i gymryd lle cyllid yr UE, ac rwy'n falch o weld agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn dod â budd i'r gymuned trwy helpu i gadw ein strydoedd yn fwy diogel i'r cyhoedd.
Rwyf hefyd yn falch o weld y bydd Dinbych nawr yn gallu cysylltu â Phartneriaeth Teledu Cylch Cyfyng Sir Ddinbych sydd eisoes yn cynnwys cynghorau tref yn y Rhyl, Rhuddlan a Phrestatyn.
Bydd pum camera cylch cyfyng newydd yn cael eu gosod yng nghanol tref Dinbych, gan gynyddu nifer y lleoliadau camera i gynnwys Pwllygrawys a goleuadau Stryd y Dyffryn.
Bydd y prosiect hefyd yn uwchraddio camerâu presennol y dref gyda modelau mwy newydd sy'n darparu delweddau o ansawdd uwch ar gyfer gwell diogelwch.
Mae'r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Dinbych sydd wedi derbyn £55,687 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Ar ôl eu gosod bydd y camerâu yn ffurfio rhan o Bartneriaeth Teledu Cylch Cyfyng Sir Ddinbych, cydweithrediad sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a chynghorau tref Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl. Mae camerâu ar draws rhwydwaith y Bartneriaeth yn elwa ar fonitro adweithiol 24 awr drwy ystafell reoli CCTV ganolog gyda chysylltiadau â Heddlu Gogledd Cymru.
Meddai’r Sarjant Mark Jones o Dîm Plismona Cymdogaeth Heddlu Gogledd Cymru:
Bydd y camerâu newydd hyn yn hynod fuddiol o ran ymestyn ein darpariaeth yn Sir Ddinbych ac yn helpu i leihau troseddu ac anhrefn ymhellach.