Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging more local schools to get involved in projects to improve the environment.
Mr Rowlands, a keen supporter of rural initiatives is backing a community campaign in Flintshire to encourage schools to learn more about the environment.
He said:
It is great to see schoolchildren being encouraged to take part in environment initiatives and being given the opportunity to learn more about this very important issue.
I was very pleased to hear schools like Bryn Deva CP, Connah’s Quay, Venerable Edward Morgan RC Primary School, Shotton and Mini Police from Queensferry CP getting involved as it is great to see young children learning more about keeping our areas tidy and free from dog fouling.
I support any initiatives which will ultimately help improve our environment and urge more schools in Flintshire to sign up and support the campaign.
Flintshire County Council have teamed up with Community Impact Learning, CIL, a local community interest group with a goal to help support young learners gain practical skills and experience, whilst making a difference to the community.
Pupils from several schools across Flintshire have already taken part in environmental initiatives to raise awareness about the impact of dog fouling and litter across the community.
Bryn Deva School participated in a follow up ‘Bag it, bin it’ initiative at Central Park, Connah’s Quay. Their findings were consistent with research indicating that 9 out of 10 dog owners picked up after their dogs. However, the remaining one out of ten owners led to 130 dog fouls being found at 30% of the park within six months.
The ‘Bag it, bin it’ initiative promotes positive and responsible dog ownership to the minority of dog owners who don’t pick up after their pets. Bright pink pawprints are painted on the floor to guide people to the nearest bin urging them to ‘bag it, bin it’ and ‘leave only pawprints’ as part of Keep Wales tidy’s campaign.
Venerable Edward Morgan RC Primary School and Mini Police from Queensferry CP helped raise awareness at Dee Park, Shotton. Children collected 10 bags of litter, sprayed messages on pavements with chalk paint asking dog owners to ‘Bag it, bin it,’ and displayed posters about dog fouling around the park.
Gareth from Community Impact Learning said:
Our community campaign to keep Flintshire tidy and to highlight the issue of dog fouling has so far proven to be an amazing success! The young students from those schools already involved have joined in with great enthusiasm and the feedback from them has been tremendous.
CIL would like to hear from other schools to sign up and pledge support for their campaign. Events are run at a time and location that fits well with student groups.
If your school is willing to get involved in any of CIL projects, please contact [email protected] or follow them on Facebook https://www.facebook.com/KeepFlintshireTidy
Sam Rowlands AS yn cefnogi gwahoddiad i ysgolion lleol yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Gogledd Cymru, yn annog mwy o ysgolion lleol i gymryd rhan mewn prosiectau gwella'r amgylchedd.
Yn frwd dros fentrau gwledig, mae Sam Rowlands yn cefnogi ymgyrch gymunedol yn Sir y Fflint i annog ysgolion i ddysgu mwy am yr amgylchedd.
Dywedodd:
Mae'n wych gweld plant ysgol yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn mentrau amgylcheddol a chael cyfle i ddysgu mwy am y mater hollbwysig hwn.
Roedd hi'n braf clywed am ysgolion fel Ysgol Gynradd Bryn Deva, Cei Connah, Ysgol Gynradd Gatholig yr Hybarch Edward Morgan, Shotton a Heddlu Bach o Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry yn cymryd rhan a dysgu mwy am gadw ein hardaloedd yn dwt a thaclus ac yn rhydd o faw cŵn.
Dwi'n cefnogi unrhyw fentrau a fydd yn y pen draw yn helpu i wella ein hamgylchedd ac yn annog mwy o ysgolion yn Sir y Fflint i gofrestru a chefnogi'r ymgyrch.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Dysgu Effaith Cymunedol, CIL, grŵp buddiant cymunedol lleol sydd â'r nod o helpu dysgwyr ifanc i ennill sgiliau a phrofiad ymarferol, wrth wneud gwahaniaeth i'r gymuned.
Mae disgyblion o sawl ysgol ledled Sir y Fflint eisoes wedi cymryd rhan mewn mentrau amgylcheddol i godi ymwybyddiaeth o effaith baw cŵn a sbwriel ar draws y gymuned.
Fe wnaeth criw Ysgol Bryn Deva gymryd rhan mewn menter ddilynol 'Bagiwch a Biniwch' ym Mharc Canolog, Cei Connah. Roedd eu canfyddiadau yn cyd-fynd ag ymchwil sy'n dangos bod 9 o bob 10 perchennog cŵn yn casglu baw ar ôl eu cŵn. Fodd bynnag, mae'r un o bob deg perchennog sy'n weddill wedi arwain at ganfod 130 achos o faw cŵn ar 30% o'r parc o fewn chwe mis.
Mae'r fenter 'Bagiwch, Biniwch' yn hyrwyddo perchnogaeth gadarnhaol a chyfrifol i'r lleiafrif o berchnogion cŵn sydd ddim yn casglu baw eu hanifeiliaid anwes. Mae olion pawenau pinc llachar yn cael eu paentio ar y llawr i dywys pobl at y bin agosaf gan eu hannog i'w fagio a'i finio a 'gadael dim ond olion pawennau' fel rhan o ymgyrch Cadwch Gymru'n Daclus.
Fe wnaeth criw Ysgol Gynradd Gatholig yr Hybarch Edward Morgan a Heddlu Bach o Ysgol Gymunedol Queensferry helpu i godi ymwybyddiaeth ym Mharc Dyfrdwy, Shotton. Casglodd y plant 10 bag o sbwriel, chwistrellu negeseuon 'Bagiwch, Biniwch' i berchnogion cŵn ar balmentydd gyda phaent sialc a gosod posteri am faw cŵn o gwmpas y parc.
Dywedodd Gareth o fenter Dysgu Effaith Gymunedol:
Hyd yma mae ein hymgyrch gymunedol i gadw Sir y Fflint yn daclus a thynnu sylw at broblem baw cŵn wedi prof'n llwyddiant ysgubol! Mae'r myfyrwyr ifanc o'r ysgolion hynny sydd eisoes wedi cymryd rhan wedi gwneud hynny'n llawn brwdfrydedd ac rydym wedi cael ymateb arbennig ganddynt.
Hoffai CIL glywed gan ysgolion eraill i gofrestru ac addo cefnogi'r ymgyrch. Cynhelir digwyddiadau ar amser a lleoliad sy'n cyd-fynd yn dda â grwpiau myfyrwyr.
Os yw'ch ysgol chi'n barod i gymryd rhan yn unrhyw un o brosiectau CIL, cysylltwch â [email protected] neu dilynwch nhw ar Facebook https://www.facebook.com/KeepFlintshireTidy