Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing new drop-in sessions for veterans in Wrexham.
Mr Rowlands, a keen supporter of helping past service men and women said:
I am delighted to support Veterans’ Drop-in Sessions being held in the city of Wrexham starting later this month.
I think it is a great initiative as anything which can give our former service people the help and advice they need to go about their daily lives has my full backing.
I have often expressed my concern in Welsh Parliament for our veterans as I do feel they sometimes do not get enough support. It is great to see events like this being organised in North Wales.
The first Veterans’ Drop-in Session will be held on Saturday July 29, at The Memorial Hall, Wrexham, next to Wrexham’s Waterworld, starting at 10am until 12 noon; and on the last Saturday of each month thereafter.
It is organised by Woody’s Lodge and Wrexham Council, with a collaboration of local organisations, including veterans’ associations, support groups, and community partners.
The initiative, aims to foster a sense of community among military veterans, providing them with a safe space to share experiences, connect with fellow veterans, and access various support services should they need to do so.
During the drop-in session, veterans will have the opportunity to have a brew, chat and connect with peers who have shared experiences. There will also be representatives from local support organisations to provide details of support services they provide, if needed.
“Recognising the unique challenges faced by veterans, we have come together to establish this drop-in session as a hub of support,” said Graham Jones, a retired veteran and CEO of Woody’s Lodge.
“Our aim is to create a welcoming environment where veterans can find camaraderie, seek assistance, and connect with resources that will contribute to their overall well-being and we would like to thank Wrexham Council for their support in this venture.”
Councillor Beverley Parry-Jones, Wrexham’s Armed Forces Champion, said: “Making the transition from active service to civilian life can be extremely challenging, so it’s absolutely vital that veterans get the help and support they need. Wrexham is very proud of its links with the Armed Forces, and as a council we’re committed to supporting veterans.
“We’re delighted to be part of this fantastic initiative and would encourage people to spread the word and let local veterans know about the new drop-in sessions. If you have served in the armed forces, please pop in for a chat and a brew.”
This event is open to all veterans, regardless of service branch, age, or length of service. Family members and friends of veterans who are interested in showing support and learning more about available resources are also welcome to attend.
For more information about the Veterans’ Drop-in Session in Wrexham, please contact Graham Jones.
Sam Rowlands AS yn cefnogi mwy o gymorth i gyn-filwyr yn ei Ranbarth
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi sesiynau galw heibio newydd i gyn-filwyr yn Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands, sy'n frwd o blaid helpu dynion a menywod sydd wedi bod yn y fyddin:
Rwy'n falch iawn o gefnogi Sesiynau Galw Heibio Cyn-filwyr sy'n cael eu cynnal yn ninas Wrecsam ac a fydd yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn.
Rwy'n credu ei bod yn fenter wych gan fod unrhyw beth a all roi'r cymorth a'r cyngor sydd eu hangen ar ein cyn-filwyr i fyw eu bywydau bob dydd yn cael fy nghefnogaeth lawn.
Rwyf wedi mynegi fy mhryderon am ein cyn-filwyr yn aml yn y Senedd gan fy mod yn teimlo weithiau nad ydyn nhw'n cael digon o gefnogaeth. Mae'n wych gweld digwyddiadau fel hyn yn cael eu trefnu yng Ngogledd Cymru.
Cynhelir y sesiwn galw heibio gyntaf i gyn-filwyr ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf, yn y Neuadd Goffa yn Wrecsam, wrth ymyl Byd Dŵr Wrecsam, o 10am tan hanner dydd; ac ar ddydd Sadwrn olaf pob mis wedi hynny.
Fe'i trefnir gan Woody's Lodge a Chyngor Wrecsam, gyda chydweithrediad sefydliadau lleol, gan gynnwys cymdeithasau cyn-filwyr, grwpiau cymorth, a phartneriaid cymunedol.
Nod y fenter yw meithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith cyn-filwyr, gan roi lle diogel iddyn nhw rannu profiadau, cysylltu â chyd-gyn-filwyr, a chael mynediad at wasanaethau cymorth amrywiol pe bai angen iddyn nhw wneud hynny.
Yn ystod y sesiwn galw heibio, bydd cyn-filwyr yn cael cyfle i gael paned, sgwrsio a chysylltu â chymheiriaid sydd wedi cael yr un profiadau. Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau cymorth lleol hefyd i ddarparu manylion y gwasanaethau cymorth y maen nhw’n eu darparu, os oes angen.
"Gan gydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu cyn-filwyr, rydyn ni wedi dod at ein gilydd i sefydlu'r sesiwn galw heibio hon fel canolfan gefnogaeth," meddai Graham Jones, cyn-filwr sydd wedi ymddeol a Phrif Swyddog Gweithredol Woody's Lodge.
"Ein nod yw creu amgylchedd croesawgar lle gall cyn-filwyr ddod o hyd i gyfeillgarwch, gofyn am gymorth, a chysylltu ag adnoddau a fydd yn cyfrannu at eu llesiant cyffredinol a hoffem ddiolch i Gyngor Wrecsam am eu cefnogaeth gyda’r fenter hon."
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Wrecsam: "Gall pontio o wasanaeth gweithredol i fywyd sifil fod yn heriol iawn, felly mae'n gwbl hanfodol bod cyn-filwyr yn cael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae Wrecsam yn falch iawn o'i chysylltiadau â'r Lluoedd Arfog, ac fel cyngor rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi cyn-filwyr.
"Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o'r fenter wych hon a byddem yn annog pobl i sôn wrth eraill a rhoi gwybod i gyn-filwyr lleol am y sesiynau galw heibio newydd. Os ydych chi wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, galwch heibio am sgwrs a phaned."
Mae'r digwyddiad hwn ar agor i bob cyn-filwr, waeth beth fo'i gangen wasanaeth, oedran neu hyd ei gwasanaeth. Mae croeso hefyd i aelodau teulu a ffrindiau cyn-filwyr sydd â diddordeb mewn dangos cefnogaeth a dysgu mwy am yr adnoddau sydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am y Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn Wrecsam, cysylltwch â Graham Jones.