Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing an initiative to protect animals living on the coastline in his Region this Summer.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and the environment said:
I am happy to support Operation Seabird Cymru as I believe it is vitally important to make sure our wildlife is not disturbed during the Summer months when we have increased activity on our coast.
The national campaign is asking people to be more aware of the animals around them and behave in a responsible manner.
As Chair of the Cross-Party Group for Tourism in Welsh Parliament, I am fully aware of the increased numbers of visitors attracted to North Wales during the Summer and I fully support North Wales Police who will be raising awareness of this issue throughout the holiday season.
Operation Seabird Cymru, is a national campaign which aims to protect animals living on the coastline and this Summer is taking place in North Wales which attracts hundreds of visitors.
This brings increases in recreational activities such as boating, kayaking, paddleboarding and more, which has the potential to disturb wildlife if not conducted in a safe and responsible manner.
The campaign aims to engage and educate the public about the sensitivities of the coastline, and how simple changes in their behaviour could reduce pressure on our unique wildlife such as, if you are on the water, keep a safe distance, at least 100m, from the cliffs, rafting seabirds and marine mammals, allowing space for animals to move away from you and motorised vessels and personal watercraft should travel at a no-wake speed within 300m of the cliffs or shore.
Sergeant Peter Evans of the North Wales Police Rural Crime Team said:
Over the next few weeks, we will be present at launch sites and around the North Wales coast, visiting businesses and educating and engaging with the public to raise awareness of the problems some recreational activities can cause to our coastline wildlife.
The aim of the operation, in partnership with local authorities, the RSPCA, RSPB, Natural Resources Wales and North Wales Wildlife Trust is to educate those people who use our coastal areas and seas and to enable them to enjoy our wildlife safely and without disturbance.
Some can be unaware of the effect they can have on coastal birds and mammals if they act irresponsibly along the coastline. A disturbance can have a devastating effect on certain species and their habitats and with simple education and engagement we can help prevent it from happening.
If you see someone causing a significant disturbance to wildlife along the coastline you can report it by calling 101, or via the website.
More information is available here - Operation Seabird | North Wales Police
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch genedlaethol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi menter i warchod anifeiliaid sy’n byw ar yr arfordir yn ei Ranbarth yr haf hwn.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o fyd natur a’r amgylchedd:
Rwy’n hapus i gefnogi Ymgyrch Seabird Cymru gan ei bod hi’n hollbwysig sicrhau nad yw pobl yn tarfu ar ein bywyd gwyllt yn ystod misoedd yr haf pan mae’r arfordir dan ei sang o bobl.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn gofyn i bobol fod yn fwy ymwybodol o’r anifeiliaid o’u cwmpas ac ymddwyn mewn ffordd gyfrifol.
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn Senedd Cymru, rwy’n gwbl ymwybodol o’r niferoedd cynyddol o ymwelwyr sy’n heidio i ogledd Cymru dros yr haf ac rwy’n llwyr gefnogi Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn gydol y gwyliau.
Nod ymgyrch genedlaethol Ymgyrch Seabird Cymru yw gwarchod anifeiliaid sy’n byw ar yr arfordir, ac mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal yn y Gogledd yr haf hwn, ardal sy’n denu cannoedd o ymwelwyr.
Mae hyn yn arwain at gynnydd aruthrol mewn gweithgareddau hamdden megis cychod, caiacio, padlfyrddio a mwy, sydd â’r potensial i darfu ar fywyd gwyllt os na chânt eu cynnal mewn modd diogel a chyfrifol.
Nod yr ymgyrch yw ymgysylltu ac addysgu’r cyhoedd am sensitifrwydd yr arfordir, a sut y gallai newidiadau syml yn eu hymddygiad leihau’r pwysau ar ein bywyd gwyllt unigryw ee, os ydych chi ar y dŵr, cadwch bellter diogel, o leiaf 100m, oddi wrth y clogwyni, adar môr a mamaliaid morol, gan ganiatáu lle i anifeiliaid symud oddi wrthych, a’r ffaith na ddylai cychod modur a badau dŵr personol deithio'n gyflym o fewn 300m i'r clogwyni neu'r lan.
Dywedodd y Rhingyll Peter Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru:
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn bresennol mewn safleoedd lansio ac ar hyd a lled arfordir y Gogledd, yn ymweld â busnesau ac yn addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o’r problemau y gall rhai gweithgareddau hamdden eu achosi i fywyd gwyllt ein glannau.
Nod yr ymgyrch, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yr RSPCA, RSPB, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw addysgu’r bobl hynny sy’n defnyddio ein hardaloedd arfordirol a’n moroedd a’u helpu i fwynhau ein bywyd gwyllt yn ddiogel heb aflonyddu.
Efallai nad yw rhai’n ymwybodol o’u heffaith bosib ar adar a famaliaid yr arfordir, os ydyn nhw’n ymddwyn yn afreolus ar hyd y glannau. Gall aflonyddwch gael effaith ddinistriol ar rai rhywogaethau a’u cynefinoedd, a gyda rhywfaint o addysg a chysylltiadau syml gallwn helpu i’w atal rhag digwydd.
Os ydych chi’n gweld rhywun yn tarfu’n sylweddol ar fywyd gwyllt yr arfordir, gallwch riportio hynny drwy ffonio 101 neu drwy’r wefan.
Rhagor o fanylion ar gael yma - Ymgyrch Seabird | Heddlu'r Gogledd