Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a scheme to help re-energise Wrexham city centre.
Mr Rowlands is welcoming Wrexham County Borough Council’s decision to offer grants to help improve city centre shops and commercial properties.
He said:
As Shadow Minister for Local Government and Chair of the Cross-Party Group on Tourism, I am happy to support any moves to improve our towns and city centres and delighted to see funding being made available.
We all know how popular Wrexham, has become lately as a destination of choice thanks largely due to the heroics of the local football team and it is great to see more being done to attract people to the area. This will also help boost tourism in North Wales.
Wrexham is Wales’s newest city and has such a lot to offer with an award winning university and being chosen to host the National Eisteddfod in 2025. I would urge shops and commercial property owners to apply for a grant.
Wrexham Council will use £157k of Transforming Towns funding to offer grants of up to £30k to enhance building frontages and bring vacant commercial floor space back into use.
Transforming Towns is a Welsh Government initiative designed to help regenerate town centres, ensuring they continue to play a key role in local economies and communities.
Grants are available to retail and commercial property owners with premises in the city centre. Applications are also welcome from leaseholders with seven years or more remaining on their tenancy and written consent from their landlord to carry out the proposed improvements.
The funding can be used for external works to building frontages including shopfronts and to improve display windows. Internal works, such as improvements to improve energy efficiency may also be eligible alongside a comprehensive package of external improvements. Works must be complete by February 28, 2024
For more information, including how to apply, on Wrexham Council’s website. Transforming Towns Property Development Grant | Wrexham County Borough Council
Sam Rowlands AS yn cefnogi cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi cynllun i helpu i ailfywiogi canol dinas Wrecsam.
Mae Mr Rowlands yn croesawu penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnig grantiau i helpu i wella siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol.
Meddai:
Fel Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, dwi'n hapus i gefnogi unrhyw gamau i wella canol ein trefi a’n dinasoedd a dwi wrth fy modd o weld bod cyllid ar gael.
Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor boblogaidd yw Wrecsam yn ddiweddar fel cyrchfan o ddewis, diolch yn bennaf i lwyddiant y tîm pêl-droed lleol, ac mae'n wych gweld mwy yn cael ei wneud i ddenu pobl i'r ardal. Bydd hyn yn helpu i hybu twristiaeth yn y Gogledd hefyd.
Wrecsam yw dinas fwyaf newydd Cymru ac mae ganddi gymaint i'w gynnig gyda phrifysgol sydd wedi ennill gwobrau, a chael ei dewis i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025. Byddwn yn annog siopau a pherchnogion eiddo masnachol i wneud cais am grant.
Bydd Cyngor Wrecsam yn defnyddio £157,000 o gyllid Trawsnewid Trefi i gynnig grantiau o hyd at £30,000 i wella blaen adeiladau ac adnewyddu gofod llawr masnachol gwag er mwyn ei ddefnyddio o’r newydd.
Menter gan Lywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi sydd â’r nod o helpu i adfywio canol trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn economïau a chymunedau lleol.
Mae grantiau ar gael i berchnogion eiddo manwerthu a masnachol sydd â safleoedd yng nghanol y ddinas. Croesewir ceisiadau gan lesddeiliaid hefyd sydd â saith mlynedd neu fwy’n weddill ar eu tenantiaeth a chaniatâd ysgrifenedig gan eu landlord i wneud y gwelliannau arfaethedig.
Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer gwaith allanol i flaen adeiladau, gan gynnwys blaenau siopau ac i wella ffenestri arddangos. Efallai y bydd gwaith mewnol, fel gwelliannau i wella effeithlonrwydd ynni yn gymwys hefyd, ynghyd â phecyn cynhwysfawr o welliannau allanol. Rhaid cwblhau'r gwaith erbyn 28 Chwefror 2024
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan Cyngor Wrecsam: Grant Datblygu Eiddo Trawsffurfio Trefi | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam