Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed plans to create a new independent tourism board.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism was speaking on a motion to create a bill to establish a new board of tourism for Wales, which was passed by members.
Speaking in the Senedd he said:
We know the number of jobs that tourism supports here in Wales, and let's not forget the types of jobs we are talking about; front-of-house roles in our hotels and attractions and areas of hospitality, but also those roles we often don't perhaps consider, such as the role of accountants, butchers and those in the supply chain that make such a difference in our communities.
In the region I represent of North Wales, tourism supports 46,000 jobs and usually generates around £3.5 billion every year to our local economy. Creating an independent tourism board, giving those businesses more input into how Wales is marketed as a world-beating tourism destination, can only be a good thing, both for businesses and for those communities.
An independent board will be able to champion best practice for essentials like marketing and publicity, destination management and improved amenities, because we know that things like our public toilets being well maintained, sandy beaches and adequate parking are all really important factors for our visitors and local residents alike.
The motion proposes the transfer of power away from Visit Wales, part of the Welsh Government. I would have thought it was something that Welsh Government would be happy to embrace, because we know that Wales is home to countless world-beating tourist attractions and destinations, and empowering the best and brightest of these to champion Wales and everything we have to offer.
Commenting on the success of the vote, Mr Rowlands said:
I am delighted this proposal received cross party backing and although it is not binding just hope the Welsh Labour Government take note of the support and strength of feeling shown by members and take the matter forward.
Sam Rowlands AS yn cefnogi bwrdd twristiaeth newydd i Gymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu cynlluniau i greu bwrdd twristiaeth annibynnol newydd.
Roedd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn siarad ar gynnig i greu bil i sefydlu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru, a gafodd ei basio gan aelodau.
Wrth siarad yn y Senedd dywedodd:
Rydyn ni'n gwybod faint o swyddi mae twristiaeth yn eu cynnal yma yng Nghymru, a rhaid cofio hefyd am y mathau o swyddi rydyn ni'n siarad amdanyn nhw; rolau blaen tŷ yn ein gwestai ac atyniadau a meysydd lletygarwch, ond hefyd y rolau hynny nad ydyn ni’n eu hystyried yn aml efallai, fel rôl cyfrifwyr, cigyddion a'r rhai yn y gadwyn gyflenwi sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn ein cymunedau.
Yn y rhanbarth rydw i'n cynrychioli, sef Gogledd Cymru, mae twristiaeth yn cefnogi 46,000 o swyddi ac yn cynhyrchu tua £3.5 biliwn bob blwyddyn i'n heconomi leol fel arfer. Gall creu bwrdd twristiaeth annibynnol, sy'n rhoi mwy o fewnbwn i'r busnesau hynny o ran sut mae Cymru'n cael ei marchnata fel cyrchfan twristiaeth gyda’r gorau yn y byd, ond fod o fudd i fusnesau ac i'r cymunedau hynny.
Bydd bwrdd annibynnol yn gallu hyrwyddo arferion gorau ar gyfer hanfodion fel marchnata a chyhoeddusrwydd, rheoli cyrchfannau a gwell amwynderau, gan ein bod yn gwybod bod pethau fel toiledau cyhoeddus sy’n cael eu cynnal a'u cadw'n dda, traethau tywodlyd a pharcio digonol i gyd yn ffactorau pwysig iawn i'n hymwelwyr a'n trigolion lleol fel ei gilydd.
Mae'r cynnig yn dweud y dylid tynnu’r pŵer oddi ar Croeso Cymru, rhan o Lywodraeth Cymru. Byddwn wedi meddwl ei fod yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru’n ei groesawu, oherwydd rydyn ni’n gwybod fod Cymru’n gartref i atyniadau a chyrchfannau twristiaeth di-rif gyda’r gorau yn y byd, a rhoi’r grym i’r gorau a'r mwyaf llewyrchus o'r rhain hyrwyddo Cymru a phopeth sydd gennym i'w gynnig.
Wrth sôn am lwyddiant y bleidlais, dywedodd Mr Rowlands:
Rwyf wrth fy modd bod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ac er nad yw'n orfodol, gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn cymryd sylw o'r gefnogaeth a chryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau ac yn symud y mater ymlaen.