Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a bill to help improve mental health services in Wales.
Mr Rowlands joined fellow members of the Welsh Parliament ensuring cross-party support for the Mental Health Standards of Care (Wales) Bill in the Senedd.
Speaking in Welsh Parliament Mr Rowlands said he fully supported the bill put forward by James Evans. Conservative MS for Brecon and Radnorshire which would lead to a rights-based approach, enshrining the principles of choice and autonomy in Wales.
He said:
It is pleasing to hear such good cross-party support in the Chamber. Of course, attitudes towards mental health have changed so much over the years, and there is more to be done, of course.
The way we talk about mental health and awareness throughout society has evolved a lot. It is good to talk, but it is even more important that those positive messages and nice things to say are backed up through hard, effective legislation.
This bill will be a big step towards seeing that improvement in our services, enshrining a set of principles throughout our health service that would guide care provision for decades to come. We all know that mental health provision can always be better, none more so than in my region of North Wales, where we have seen, sadly, for far too long, far too many gaps in the system that people are falling through. So, anything, in my mind, that is going to help those mental health services, whether it be legislation or otherwise, is a good thing
There are a number of provisions in the bill that colleagues have already mentioned, but I’d like to underscore the importance of them. The nearest relative provision in the Act means that a patient would be able to personally select a nominated person to represent them and exercise relevant statutory functions. I think that that’s really powerful, giving those patients more choice and ensuring that they have the most important person available to represent them at a difficult time. It’s really important.
Additionally, the introduction of virtual assessments relating to second opinion-appointed doctors and independent mental health advocates will certainly, again, further modernise the system in Wales and help support people when they are at their most vulnerable
I certainly must credit James Evans for bringing forward what is a pragmatic Bill proposal, with support from the Royal College of Psychiatrists as well. It will bolster mental health provision, make life better for those who are suffering, and is certainly worthy of the support that we have heard from across the Chamber.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cynnig am ddeddfwriaeth newydd i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi bil i helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Ymunodd Mr Rowlands â chyd-aelodau'r Senedd i sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) yn y Senedd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands ei fod yn llwyr gefnogi'r bil a gyflwynwyd gan James Evans, yr AS Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, a fyddai'n arwain at ddull gweithredu seiliedig ar hawliau, gan ymwreiddio egwyddorion dewis ac ymreolaeth yng Nghymru.
Meddai:
Mae'n braf clywed cefnogaeth drawsbleidiol mor dda yn y Siambr. Wrth gwrs, mae agweddau tuag at iechyd meddwl wedi newid cymaint dros y blynyddoedd, ac mae mwy i'w wneud, wrth gwrs.
Mae'r ffordd rydyn ni'n siarad am iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ledled cymdeithas wedi esblygu llawer. Mae siarad yn beth da, ond mae'n bwysicach fyth bod y negeseuon cadarnhaol hynny a’r geiriau caredig yn cael eu cefnogi drwy ddeddfwriaeth gadarn ac effeithiol.
Bydd y Bil hwn yn gam mawr tuag at weld y gwelliant hwnnw yn ein gwasanaethau, gan ymwreiddio set o egwyddorion ledled ein gwasanaeth iechyd a fyddai'n llywio darpariaeth gofal am ddegawdau i ddod. Rydyn ni i gyd yn gwybod y gall darpariaeth iechyd meddwl fod yn well, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn y Gogledd, lle rydyn ni, yn anffodus, wedi gweld llawer gormod o fylchau yn y system y mae pobl yn disgyn drwyddynt, a hynny am ormod o amser o lawer. Felly, yn fy marn i, mae unrhyw beth sy'n mynd i helpu'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny, boed yn ddeddfwriaeth neu rywbeth arall, yn beth da.
Mae nifer o ddarpariaethau yn y bil y mae cydweithwyr wedi'u crybwyll eisoes, ond hoffwn i danlinellu eu pwysigrwydd. Mae'r ddarpariaeth perthynas agosaf yn y Ddeddf yn golygu y byddai claf yn gallu dewis person enwebedig i'w gynrychioli ac arfer swyddogaethau statudol perthnasol. Rwy'n credu bod hynny'n bwerus iawn, gan roi mwy o ddewis i'r cleifion hynny a sicrhau bod ganddyn nhw'r person pwysicaf ar gael i'w cynrychioli ar adeg anodd. Mae'n bwysig tu hwnt.
Yn ogystal, bydd cyflwyno asesiadau rhithwir sy'n ymwneud â meddygon ail farn ac eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol yn moderneiddio'r system yng Nghymru ymhellach heb os ac yn helpu i gefnogi pobl pan fyddant fwyaf agored i niwed.
Yn sicr, rhaid i mi ganmol James Evans am gyflwyno'r hyn sy'n gynnig Bil pragmatig, gyda chefnogaeth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd. Bydd yn cryfhau'r ddarpariaeth iechyd meddwl, yn gwneud bywyd yn well i'r rhai sy'n dioddef, ac yn sicr mae'n deilwng o'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i chlywed ar draws y Siambr.