Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on the public to once again make their feeling known on the disastrous blanket change of 30mph roads to 20mph.
As a petition against the new law reaches almost half a million Welsh Conservatives have launched a national survey to find out how the blanket 20mph speed limit has impacted on families and communities.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of the policy, which was introduced across Wales last month, is urging people to have their say again.
He said:
Everybody knows how I feel about this ludicrous law and quite frankly I am shocked but not surprised that the Welsh Labour Government won’t listen to the public.
It is also extremely disappointing to see Labour politicians now trying to get involved after they refused to originally support the views of their constituents.
Thanks to pressure from Welsh Conservatives and from the thousands who have signed the petition or written letters of complaint Welsh Government now appears to be open to consider more roads to being exempt.
The roll out of this ridiculous blanket speed limit was a complete shambles, ill thought out, with local authorities not ready and worst of all impacting on people going about their daily lives.
It amazes me that a Welsh Minister claims it will reduce pollution when you are constantly having to change gear and brake because some drivers are now going even slower than 20mph.
My office is still constantly handling emails and telephone calls from my constituents in North Wales who remain angry and frustrated.
We have to keep the pressure on and continue to fight this barmy legislation which is certainly not showing Wales in a good light.
I would urge people to take part in the survey and let us know how the 20mph limit has affected you, your family or your work. Whatever your thoughts, please tell us.
Sam Rowlands AS yn cefnogi arolwg y Ceidwadwyr Cymreig ar 20mya
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn galw ar y cyhoedd unwaith eto i fynegi eu barn ar y newid hollgynhwysfawr trychinebus o 30mya i 20mya ar y ffyrdd.
Wrth i ddeiseb yn erbyn y ddeddf newydd gyrraedd bron i hanner miliwn mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio arolwg cenedlaethol i ddarganfod sut mae'r terfyn cyflymder 20mya hollgynhwysfawr wedi effeithio ar deuluoedd a chymunedau.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a beirniad llym o’r polisi a gyflwynwyd ar hyd a lled Cymru fis diwethaf, yn annog pobl i ddweud eu dweud eto.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod sut dwi'n teimlo am y ddeddf chwerthinllyd hon ac yn hollol onest dwi wedi cael sioc bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod gwrando ar y cyhoedd, ond dyw hynny ddim yn fy synnu.
Mae hefyd yn hynod siomedig gweld gwleidyddion Llafur yn ceisio cymryd rhan rŵan ar ôl gwrthod cefnogi barn eu hetholwyr yn wreiddiol.
Diolch i bwysau gan y Ceidwadwyr Cymreig a chan y miloedd sydd wedi arwyddo'r ddeiseb neu wedi ysgrifennu llythyrau i gwyno mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru bellach yn agored i'r syniad o eithrio rhagor o ffyrdd.
Roedd cyflwyno'r terfyn cyflymder hollgynhwysfawr chwerthinllyd hwn yn draed moch llwyr, wedi'i gynllunio'n wael, gydag awdurdodau lleol ddim yn barod ac yn waeth na dim, mae’n effeithio ar fywydau pob dydd pobl.
Mae'n fy synnu bod un o Weinidogion Cymru yn honni y bydd yn lleihau llygredd pan fyddwch yn gorfod newid gêr a brecio'n gyson oherwydd bod rhai gyrwyr bellach yn mynd hyd yn oed yn arafach nag 20mya.
Mae fy swyddfa yn dal i ymdrin â negeseuon e-bost a galwadau ffôn gan fy etholwyr yn y Gogledd sy'n parhau'n flin ac yn rhwystredig.
Mae'n rhaid i ni barhau i frwydro a rhoi pwysau yn erbyn y ddeddfwriaeth wallgof hon sy'n dangos Cymru mewn goleuni gwael iawn.
Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan yn yr arolwg a rhoi gwybod i ni sut mae'r terfyn 20mya wedi effeithio arnoch chi, eich teulu neu'ch gwaith. Beth bynnag yw'ch meddyliau, dywedwch wrthym.