Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging families to take up free cycling lessons in Wrexham this Easter.
Mr Rowlands said:
I am a great supporter of encouraging adults and children to get out and about on their cycles and delighted to see free courses are being offered to help cyclists gain confidence on city roads.
It is great to see that experts will be on hand to deliver these courses and a great way for all the family to learn together.
I would urge anyone interested in attending any of the sessions to make sure they sign up as soon as possible.
The courses will be delivered by Seiclo Clwyd Ltd, who deliver cycle training courses in primary schools across the county. The instructors are qualified national standards cycling instructors, as well as being trained first aiders who hold enhanced DBS certificates.
To take part you will need a roadworthy bike, and a cycling helmet is highly recommended. You should come prepared wearing appropriate clothing for the weather conditions, such as waterproofs and gloves.
Access to Wrexham Council owned cycles and helmets could be organised as long as Seiclo Clwyd are provided with enough time and information.
Please also remember to bring water and some food/snacks to ensure good levels of concentration.
The courses will start with basic cycle handling away from traffic, progressing to quiet streets and then busier routes.
Each course is limited to six riders, taking place at 9.30am and 1.30pm on the following dates: March – Monday 25, Tuesday 26, Wednesday 27 and Thursday 28.
The start location of your course will depend on the day it takes place- Monday – Acton Park; Tuesday – Stansty; Wednesday – Rhosddu and Thursday – Gwersyllt.
To get more details or to book your place, you can email [email protected]
Sam Rowlands AS yn annog etholwyr i fanteisio ar wersi beicio am ddim er mwyn magu hyder ar ffyrdd
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog teuluoedd i fanteisio ar wersi beicio am ddim yn Wrecsam y Pasg hwn.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n gefnogwr brwd o annog oedolion a phlant i fynd allan ar eu beiciau ac wrth fy modd yn gweld cyrsiau am ddim yn cael eu cynnig i helpu beicwyr i fagu hyder ar ffyrdd y ddinas.
Mae'n wych gweld y bydd arbenigwyr wrth law i gyflwyno'r cyrsiau hyn ac mae’n ffordd wych i'r teulu cyfan ddysgu gyda'i gilydd.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r sesiynau i sicrhau eu bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl.
Bydd y cyrsiau'n cael eu darparu gan Seiclo Clwyd Cyf, sy'n darparu cyrsiau hyfforddiant beicio mewn ysgolion cynradd ar draws y sir. Mae'r hyfforddwyr yn hyfforddwyr beicio safonau cenedlaethol cymwysedig, yn ogystal â bod yn swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig sy'n meddu ar dystysgrifau DBS manwl.
I gymryd rhan, bydd angen beic addas i'r ffordd arnoch, ac mae helmed feicio yn cael ei argymell yn gryf. Dylech ddod yn barod i feicio wedi gwisgo dillad priodol ar gyfer yr amodau tywydd, fel dillad atal dŵr a menyg.
Gellir trefnu benthyg beiciau a helmedau sy'n eiddo i Gyngor Wrecsam cyn belled â bod Seiclo Clwyd yn cael digon o amser a gwybodaeth.
Cofiwch hefyd ddod â dŵr a rhywfaint o fwyd/byrbrydau er mwyn gallu canolbwyntio’n dda.
Bydd y cyrsiau'n dechrau gyda thrafod beiciau’n sylfaenol i ffwrdd o draffig, gan symud ymlaen i strydoedd tawel cyn mynd ar lwybrau prysurach.
Mae pob cwrs wedi'i gyfyngu i chwe beiciwr, ac yn cael ei gynnal am 9.30am ac 1.30pm ar y dyddiadau canlynol: Mis Mawrth - Dydd Llun 25, Mawrth 26, Mercher 27 a Dydd Iau 28.
Bydd lleoliad cychwyn eich cwrs yn dibynnu ar y diwrnod y mae'n cael ei gynnal- Dydd Llun – Parc Acton; Dydd Mawrth – Stansty; Dydd Mercher – Rhosddu a Dydd Iau – Gwersyllt.
I gael mwy o fanylion neu i archebu lle, gallwch anfon e-bost [email protected]