Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on local authorities in his Region not to charge visitors extra for their stay in North Wales and resist the Cardiff Government’s anti-tourism policy.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism is urging councils across North Wales, to ignore planned proposals to introduce a tax on tourists for staying in commercially-let overnight visitor accommodation.
He said:
I am calling on local councils in North Wales to totally boycott this ridiculous idea. I have been saying for many months when it was first suggested that charging tourist more money will have a detrimental affect on tourism.
Last week, comedian and TV presenter, Griff Rhys Jones, who runs a holiday let business in Pembrokeshire, expressed his concern at introducing a tourism tax and suggested holidaymakers would stay away from Wales.
I cannot believe how short sighted the Welsh Labour Government is being about this issue. The consultation was a complete joke with very few people responding. Probably because everyone thought it would be a waste of time as we all know the Cardiff based Government is doing its best to destroy tourism in Wales.
Everybody knows how passionate I am about encouraging tourism in North Wales and I am frankly appalled at the Welsh Government’s lack of support.
Earlier this year the Welsh Affairs Committee said it was concerned that Wales attracts such a small proportion’ of international visitors. In 2019, 41 million international holidaymakers visited the UK, with just over one million coming to Wales. Of the £28bn spent in the UK by international tourists in 2019, only £515m was spent in Wales. I think this is quite scandalous.
Time and time again I have raised tourism issues in Welsh Parliament yet my calls always seem to fall on deaf ears.
Tourism is big business in North Wales, in particular, yet the Labour Welsh Government continue to hamper its growth with its crippling 182 day holiday let regulations and the soon to be introduced tourism tax.
It is about time we began to promote our country and supported the thousands of people who live and work in the tourism industry.
The controversial levy will be a small charge paid by people staying in commercially-let overnight visitor accommodation. Under the new plan, local authorities will decide whether to introduce a levy and the funds raised will be used to benefit local areas.
Welsh Government have said they plan to introduce the legislation before the next elections in 2026.
Sam Rowlands AS yn annog cynghorau yng Ngogledd Cymru i herio cynigion Llywodraeth Lafur Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw ar awdurdodau lleol yn ei Ranbarth i beidio â chodi tâl ychwanegol ar ymwelwyr am eu harhosiad yng Ngogledd Cymru ac i wrthwynebu polisi gwrth-dwristiaeth Llywodraeth Caerdydd.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, yn annog cynghorau ledled Gogledd Cymru i anwybyddu cynigion arfaethedig i gyflwyno treth ar dwristiaid am aros mewn llety ymwelwyr dros nos a gaiff ei osod yn fasnachol.
Meddai:
Rwy'n galw ar gynghorau lleol yng Ngogledd Cymru i droi eu cefnau ar y syniad chwerthinllyd hwn yn llwyr. Rydw i wedi bod yn dweud ers misoedd lawer pan awgrymwyd y syniad gyntaf y bydd codi mwy o arian ar dwristiaid yn cael effaith andwyol ar dwristiaeth.
Yr wythnos diwethaf, mynegodd y digrifwr a'r cyflwynydd teledu, Griff Rhys Jones, sy'n rhedeg busnes gosod tai gwyliau yn Sir Benfro, ei bryder ynghylch cyflwyno treth twristiaeth ac awgrymodd y byddai pobl ar eu gwyliau yn cadw draw o Gymru.
Alla’i ddim credu pa mor gul yw barn Llywodraeth Lafur Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Roedd yr ymgynghoriad yn jôc llwyr gydag ychydig iawn o bobl yn ymateb, a hynny mae'n debyg oherwydd bod pawb yn credu y byddai'n wastraff amser gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod y Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn gwneud ei gorau i ddinistrio twristiaeth yng Nghymru.
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog twristiaeth yng Ngogledd Cymru ac mae diffyg cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi fy syfrdanu.
Yn gynharach eleni dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig ei fod yn poeni bod Cymru'n denu cyfran mor fach o ymwelwyr rhyngwladol. Yn 2019, ymwelodd 41 miliwn o dwristiaid rhyngwladol â'r DU, gydag ychydig dros filiwn yn dod i Gymru. O'r £28 biliwn a wariwyd yn y DU gan dwristiaid rhyngwladol yn 2019, dim ond £515 miliwn gafodd ei wario yng Nghymru. Mae hynny’n warthus.
Dro ar ôl tro rydw i wedi crybwyll materion twristiaeth yn y Senedd ond does neb fel petai’n gwrando.
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Ngogledd Cymru, yn benodol, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i rwystro twf y sector gyda'i rheoliadau gosod gwyliau am 182 diwrnod a'r dreth dwristiaeth a fydd yn cael ei chyflwyno cyn bo hir.
Mae'n hen bryd i ni ddechrau hyrwyddo ein gwlad a chefnogi'r miloedd o bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth.
Bydd yr ardoll ddadleuol yn dâl bach a fydd yn cael ei dalu gan bobl sy'n aros mewn llety ymwelwyr masnachol dros nos. Dan y cynllun newydd, awdurdodau lleol fydd yn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll a bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio er budd ardaloedd lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth cyn yr etholiadau nesaf yn 2026.