Sam Rowlands MS for North Wales is reminding constituents there is still time to top up their Covid immunity.
He said:
The Covid Spring Booster programme is coming to an end next week and I would urge anyone eligible to make sure they get boosted.
Although we are in the Summer months and many of us are spending much more time outside it is still vital we protect people ourselves and those who are at risk.
The Spring Booster programme comes to an end on Thursday June 30 2022 and the health board is urging everyone to check that their relatives who are over 75 have come forward for their Spring Booster.
Those eligible for the programme are: People turning 75 on or before June 30 2022; care home residents and those aged 12 and over who are immunosuppressed
Graham Rustom, COVID-19 Vaccination Programme Manager, said:
We are appealing to anyone aged over 75 who has not yet received their Spring Booster to either book an appointment or attend one of our drop-in clinics.
Getting the Spring Booster will offer longer lasting protection against severe COVID-19 illness to those who are more vulnerable.
All vaccination invitations have been sent out to those eligible, but if you feel you have been missed, please call the Contact Centre on 03000 840004 or visit one of the drop-in clinics.
Sam Rowlands AS yn annog pobl gymwys i gael eu pigiad atgyfnerthu Covid
Mae Sam Rowlands, yr AS dros y Gogledd, yn atgoffa etholwyr bod dal amser i gael eu pigiad atgyfnerthu Covid.
Meddai:
Mae rhaglen Pigiad Atgyfnerthu Covid y Gwanwyn yn dod i ben yr wythnos nesaf a byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i wneud yn siŵr eu bod yn cael y pigiad.
Er ei bod hi bellach yn haf a llawer ohonom yn treulio llawer mwy o amser y tu allan, mae'n dal yn hanfodol ein bod ni’n amddiffyn ein hunain a'r rhai sy'n wynebu risg.
Mae rhaglen Pigiad Atgyfnerthu y Gwanwyn yn dod i ben ddydd Iau 30 Mehefin 2022 ac mae'r bwrdd iechyd yn annog pawb i sicrhau bod eu perthnasau sydd dros 75 oed wedi dod i gael Pigiad Atgyfnerthu y Gwanwyn.
Y rhai sy'n gymwys ar gyfer y rhaglen yw: Pobl sy'n troi'n 75 oed ar neu cyn 30 Mehefin 2022; preswylwyr cartrefi gofal a'r rhai 12 oed a throsodd sy'n imiwnoataliedig
Dywedodd Graham Rustom, Rheolwr Rhaglen Frechu COVID-19:
Rydym yn apelio ar unrhyw un dros 75 oed sydd heb dderbyn Pigiad Atgyfnerthu y Gwanwyn eto i drefnu apwyntiad neu i fynd i un o'n clinigau galw heibio.
Bydd cael Pigiad Atgyfnerthu y Gwanwyn yn cynnig amddiffyniad hirach yn erbyn salwch COVID-19 difrifol i'r rhai sy'n fwy agored i niwed.
Mae'r holl wahoddiadau brechu wedi'u hanfon at y rhai sy'n gymwys, ond os ydych yn teimlo ein bod wedi'ch methu chi, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 03000 840004 neu ewch i un o'r clinigau galw heibio.