Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging constituents to let the police know if they have any issues.
Mr Rowlands, a keen supporter of the work of North Wales Police is backing an initiative asking the public to let them know if they have any concerns in their area and how safe they feel.
He said:
I am a great supporter of asking local people, who live and work in North Wales, what issues matter to them in their communities and to voice their concerns.
I recently called on my constituents to help the police prioritise their neighbourhood policing activity and now North Wales Police particularly want to hear from people who live in rural areas as they have had a low response from these communities.
People living in the countryside must also have concerns and I would encourage them to take the opportunity to make their voices heard.
We all know that North Wales is one of the safest places to live, work and visit and I always welcome any measures which will help to keep it that way.
The short survey asks people what it is like to live in their areas and what issues matter most to them in their community. There is also an opportunity to raise any concerns they may have.
North Wales Police hope to be able to provide feedback locally and share information with local community / town councillors and partners to address any issues highlighted and see what matters most to their constituents.
The survey is short and can be completed anonymously on a phone or computer or by signing up as part of the 12,500 community members who are already receiving regular alerts on crimes and scams in their local area.
To take part go to: https://survey.northwalescommunityalert.co.uk/Survey/GUID/5748aeae-45a6-4cb4-9941-25ddc70484df
Sam Rowlands AS yn annog pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig i ddweud eu dweud
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr i roi gwybod i'r heddlu os oes ganddyn nhw unrhyw broblemau.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o waith Heddlu Gogledd Cymru, yn cefnogi menter sy'n gofyn i'r cyhoedd roi gwybod iddyn nhw a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon yn eu hardal a pha mor ddiogel maen nhw'n teimlo.
Meddai:
Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn gofyn i bobl leol, sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru, pa faterion sy'n bwysig iddyn nhw yn eu cymunedau ac i rannu eu pryderon.
Yn ddiweddar, gofynnais i’m hetholwyr helpu'r heddlu i flaenoriaethu eu gweithgarwch plismona yn y gymdogaeth a nawr mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus iawn i glywed gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gan nad ydyn nhw wedi cael llawer o ymateb gan y cymunedau hyn.
Mae’n rhaid bod gan bobl sy'n byw yng nghefn gwlad hefyd bryderon a byddwn yn eu hannog i fanteisio ar y cyfle i leisio’u barn.
Rydyn ni i gyd yn gwybod mai Gogledd Cymru yw un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi ac rydw i bob amser yn croesawu unrhyw fesurau a fydd yn helpu i'w chadw felly.
Mae'r arolwg byr hwn yn gofyn i bobl sut beth yw byw yn eu hardaloedd a pha faterion sydd bwysicaf iddyn nhw yn eu cymuned. Mae cyfle hefyd i grybwyll unrhyw bryderon a allai fod ganddyn nhw.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gobeithio gallu rhoi adborth yn lleol a rhannu gwybodaeth gyda chynghorwyr a phartneriaid cymunedol/tref lleol er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion a amlygwyd a gweld beth sydd bwysicaf i'w hetholwyr.
Arolwg byw yw hwn a gellir ei gwblhau'n ddienw ar y ffôn neu ar gyfrifiadur neu drwy gofrestru fel rhan o'r 12,500 o aelodau cymuned sydd eisoes yn derbyn rhybuddion rheolaidd ar droseddau a sgamiau yn eu hardal leol.
I gymryd rhan, ewch i: https://survey.northwalescommunityalert.co.uk/Survey/GUID/5748aeae-45a6-4cb4-9941-25ddc70484df