Sam Rowlands MS for North Wales is calling for urgent intervention to improve health services in his region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was opening a Welsh Conservative debate, calling on the Labour Government to impose a reformed special measures regime on Betsi Cadwaladr University Health Board in order to address its historic failings.
He said:
When I speak to staff, whether it be doctors, nurses, midwives, support staff, admin staff, the story is always the same - they are trying their level best, day in and day out, but they are just not being supported by this Government, who have not taken the drastic action that we need to see in North Wales.
I would like to focus on three issues that I believe are the drivers behind the debate, the first being patient experience. The fact of the matter is that the lack of support from the Government means that the health board can't deliver services properly. Anyone who's visited healthcare settings in my region in North Wales and sat down with patients knows just how bad things can get. Referral to treatment times in North Wales are among the worst across the country. One in four patients are waiting over a year for treatment, with 18,000 patients waiting more than two years.
Secondly, I'd like to focus on ambulance and A&E waiting times. The performance at A&E waiting rooms across North Wales is simply not good enough. In April 2022, Betsi recorded the worst A&E waiting times in Wales, with just over half of patients being seen within four hours.
Thirdly, the thing for me that sums up this Welsh Government's failure to improve things at Betsi is the performance of the mental health services. Only as recently as April, S4C's Y Byd ar Bedwar revealed patients were being denied in-patient treatments that they needed. Staff are scared to come into work, and too frightened to speak out, This does not suggest there's been any progress at all since the special measures in 2015.
I propose it's time to slap a health warning on this Government. The side effects may include one in five people on waiting lists, 10,000 people waiting for more than 12 hours in A&E, over 70,000 people waiting more than two years for treatment, 42%t of cancer patients not starting treatment within two months, and a 50:50 chance of getting an ambulance in the time that you need it. It's time for change, and it's time for new solutions. Minister, I urge you to do what your predecessors couldn't, and tackle the issues at Betsi head on once and for all.
Sam Rowlands AS yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r bwrdd iechyd yn y Gogledd sy’n methu
Mae Sam Rowlands AS ar gyfer y Gogledd yn galw am ymyrraeth frys i wella gwasanaethau iechyd yn ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn agor dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur gyflwyno trefn mesurau arbennig ddiwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn mynd i’r afael â’i fethiannau.
Meddai:
Pan fyddaf yn siarad â staff – boed yn feddygon, nyrsys, bydwragedd, staff cymorth, staff gweinyddol – yr un yw’r stori bob tro: maen nhw’n gwneud eu gorau glas, ddydd ar ôl dydd, ond nid ydynt yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth hon, Llywodraeth sydd heb gymryd y camau llym y mae angen inni eu gweld yn y Gogledd.
Hoffwn ganolbwyntio ar dri mater sydd, yn fy marn i, yn llywio'r hyn sydd wrth wraidd y ddadl, a'r cyntaf yw profiad cleifion. Y ffaith amdani yw bod diffyg cymorth gan y Llywodraeth yn golygu na all y bwrdd iechyd ddarparu gwasanaethau’n briodol. Mae unrhyw un sydd wedi ymweld â lleoliadau gofal iechyd yn fy rhanbarth yn y Gogledd ac wedi eistedd gyda chleifion yn gwybod pa mor wael y gall pethau fod. Mae amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y Gogledd gyda’r gwaethaf yn y wlad Mae un o bob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth, gyda 18,000 o gleifion yn aros mwy na dwy flynedd.
Yn ail, hoffwn ganolbwyntio ar amseroedd aros ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Nid yw perfformiad ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys ledled y Gogledd yn ddigon da. Ym mis Ebrill 2022, cofnododd Betsi Cadwaladr yr amseroedd aros gwaethaf ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, gydag ychydig dros hanner y cleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr.
Yn drydydd, y peth i mi sy’n dangos methiant Llywodraeth Cymru i wella pethau yn Betsi Cadwaladr yw perfformiad y gwasanaethau iechyd meddwl. Mor ddiweddar â mis Ebrill, datgelodd Y Byd ar Bedwar ar S4C nad oedd cleifion yn cael y triniaethau cleifion mewnol yr oeddent eu hangen. Mae staff ofn dod i’r gwaith, ac yn rhy ofnus i godi llais. Mae hyn yn awgrymu na fu unrhyw gynnydd o gwbl ers y mesurau arbennig yn 2015.
Rwy’n cynnig ei bod yn bryd rhoi rhybudd iechyd ar y Llywodraeth hon. Gall y sgil-effeithiau gynnwys un o bob pump o bobl ar restrau aros, 10,000 o bobl yn aros am fwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, dros 70,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, 42 y cant o gleifion canser nad ydynt yn dechrau triniaeth o fewn dau fis, a gobaith 50:50 o gael ambiwlans o fewn yr amser sydd ei angen arnoch. Mae'n bryd newid, ac mae'n bryd cael atebion newydd. Weinidog, rwy’n erfyn arnoch i wneud yr hyn na allai eich rhagflaenwyr ei wneud, a mynd i’r afael â’r problemau yn Betsi Cadwaladr unwaith ac am byth.