Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has been seeing how a successful distillery is run in North Wales.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism was visiting Aber Fall Distillery in the village of Abergwyngregyn, in Conwy.
He said:
I was delighted to have the opportunity to visit Aber Falls Whisky Distillery and Visitor Centre, which welcomes tourists and connoisseurs to visit and sample their wares.
It was great to meet staff and see for myself how whisky and their award winning gin, infused with botanical ingredients from across North Wales, is distilled.
As a very keen supporter of tourism in North Wales, I was particularly pleased to hear that Aber Falls will once again be hosting a Christmas Market early next month where small business will be trading out of Christmas themed wooden chalets.
It is fantastic they are holding this event and I hope it will be well supported.
Aber Falls Whisky Distillery is one of only four in Wales, and the first in North Wales since the early 1900s.
It is located within a stone’s throw of Rhaeadr Fawr, the famous Aber Falls waterfall, with both whisky and gin made in the distillery, using specially crafted Welsh ingredients from the surrounding area.
The village of Abergwyngregyn, where the distillery is based, sits at the foot of the famous Aber Falls waterfall attracting over 50,000 visitors a year. It is easily accessible, just off the A55 and a stone’s throw from the coast.
Previously a slate works in the 19th century, a margarine factory during the World Wars, and more recently a drinks wholesaler depot, the building has been lovingly restored and refurbished.
The Aber Falls Christmas Market will take place on Saturday December 9 from 10am-7pm with distillery tours, cafe, and shop open as usual.
Sam Rowlands AS yn ymweld â distyllfa arobryn yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi bod yn gweld sut mae distyllfa lwyddiannus yn cael ei rhedeg yn y Gogledd.
Roedd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn ymweld â Distyllfa Aber Falls ym mhentref Abergwyngregyn, yng Nghonwy.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Distyllfa Wisgi a Chanolfan Ymwelwyr Aber Falls, sy'n croesawu twristiaid ac arbenigwyr i ymweld a blasu eu nwyddau.
Roedd hi’n wych cwrdd â staff a gweld drosof fi fy hun sut mae eu chwisgi a'u jin arobryn, sydd wedi'u trwytho â chynhwysion botanegol o bob rhan o’r Gogledd, yn cael eu distyllu.
Fel cefnogwr brwd iawn i dwristiaeth yn y Gogledd, roeddwn i’n arbennig o falch o glywed y bydd Aber Falls unwaith eto yn cynnal Marchnad Nadolig yn gynnar y mis nesaf lle bydd busnesau bach yn masnachu allan o gytiau bach pren ar thema'r Nadolig.
Mae'n wych eu bod yn cynnal y digwyddiad hwn ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gefnogi'n frwd.
Mae distyllfa wisgi Aber Falls yn un o ddim ond pedwar yng Nghymru, a'r cyntaf yn y Gogledd ers dechrau'r 1900au.
Mae wedi’i leoli o fewn tafliad carreg i’r Rhaeadr Fawr enwog, gyda wisgi a jin yn cael ei wneud yn y ddistyllfa, gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig wedi'u crefftio'n arbennig o'r ardal gyfagos.
Mae pentref Abergwyngregyn, lle mae'r distyllfa wedi'i lleoli, yn eistedd wrth droed rhaeadr enwog Rhaeadr Fawr sy’n denu dros 50,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'n hawdd ei gyrraedd, ychydig oddi ar yr A55 a thafliad carreg o'r arfordir.
Yn gyn waith llechi yn y 19eg ganrif, ffatri margarîn yn ystod y Rhyfeloedd Byd, ac yn ddepo cyfanwerthwr diodydd yn fwy diweddar, mae'r adeilad wedi cael ei adfer a'i adnewyddu'n ofalus.
Bydd Marchnad Nadolig Aber Falls yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr rhwng 10am a 7pm gyda theithiau distyllfa, caffi a siop ar agor fel arfer.