Local member of the Senedd Sam Rowlands, who represents North Wales in the Welsh Parliament paid a visit to his local British Heart Foundation charity shop in Wrexham this week.
Meeting staff and volunteers at the shop, Sam said:
It’s wonderful to see the commitment from the volunteers in BHF’s shop in Wrexham. BHF do amazing work funding ground breaking research into tackling heart and other circulatory diseases. Their shops are well stocked and I’d encourage anyone to pop into their local BHF store.
Policy and Public Affairs Manager, Gemma Roberts said:
Our work in BHF shops in Wales is vital to the charity. We raise money to fund lifesaving research across the UK. But we are heavily reliant on volunteers. We have a huge range of volunteer positions available from sales assistant roles to warehouse positions. All our volunteers learn new skills, and gain valuable experience, so whether people are interested in customer service, warehouse logistics or sales, we have opportunities to suit everyone.
Gemma added:
We rely on the goodwill of the residents of Wrexham to donate their pre-loved items to the BHF. We’re so grateful for the support they give, and our loyal customers, many of whom have become friends. We couldn’t do what we do without the whole community getting behind us.
To find out more about volunteering and career opportunities at the BHF visit www.bhf.org.uk.
Sam Rowlands AS yn ymweld â siop elusen Sefydliad Prydeinig y Galon
Fe wnaeth yr aelod lleol o'r Senedd, Sam Rowlands, sy'n cynrychioli’r Gogledd yn y Senedd, ymweld â siop leol elusen Sefydliad Prydeinig y Galon yn Wrecsam yr wythnos hon.
Wrth gyfarfod â staff a gwirfoddolwyr yn y siop, dywedodd Sam:
Mae'n wych gweld ymrwymiad y gwirfoddolwyr yn siop Sefydliad Prydeinig y Galon yn Wrecsam. Mae’r Sefydliad yn gwneud gwaith anhygoel yn ariannu ymchwil arloesol i fynd i'r afael â chlefydau'r galon a chlefydau eraill sy’n effeithio ar gylchrediad y gwaed. Mae eu siopau’n llawn nwyddau a byddwn yn annog pawb i alw yn ei siop leol.
Meddai Gemma Roberts, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus:
Mae ein gwaith yn siopau Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru yn hanfodol i'r elusen. Rydyn ni’n codi arian i ariannu ymchwil sy'n achub bywydau ledled y Deyrnas Unedig. Ond rydyn ni’n dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr. Mae pob math o swyddi gwirfoddoli ar gael, o swyddi cynorthwyydd gwerthu i swyddi warws. Mae ein holl wirfoddolwyr yn dysgu sgiliau newydd, ac yn ennill profiad gwerthfawr, felly p'un a oes gan bobl ddiddordeb mewn gwasanaeth cwsmeriaid, logisteg warws neu werthu, mae gennym gyfleoedd sy’n addas i bawb.
Ychwanegodd Gemma:
Rydyn ni'n dibynnu ar ewyllys da trigolion Wrecsam i roi eitemau i Sefydliad Prydeinig y Galon. Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth y maen nhw’n ei rhoi, a'n cwsmeriaid ffyddlon, ac mae llawer ohonyn nhw wedi dod yn ffrindiau. Fydden ni ddim yn gallu gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud heb gefnogaeth y gymuned gyfan.
I gael gwybod mwy am wirfoddoli a chyfleoedd gyrfa yn Sefydliad Prydeinig y Galon, ewch i www.bhf.org.uk.