Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for fairer funding to support care homes and their residents.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was commenting after he visited St David’s Residential Home in Rhyl.
He said:
I was delighted to be invited to the home to meet the hard-working team and residents and learn more about the care sector and the challenges they currently face.
I was particularly concerned to hear about fears for the future of small, independently run homes and how local government funding for residential home placements is clearly not enough.
There is a real need for North Wales councils to be more transparent with fee setting arrangements and for local councillors to get to grips with these problems.
It is very worrying and it is something I have often raised in Welsh Parliament and will continue to do so in my capacity as Shadow Minister for Local Government.
St David’s Residential Home, is a highly rated care home, opposite Rhyl beach and promenade and only a mile from the main shopping centre with staff and management priding themselves on offering the highest quality care for residents.
They welcome residents for long or short term, convalescence and holiday stays with individualised care plans regularly evaluated and reviewed.
Programmes of activities are also organised jointly by the staff and residents providing forms of leisure whereby residents can continue to take an interest in life and maintain their skills and confidence.
Sam Rowlands AS yn ymweld â Chartref Preswyl Dewi Sant yn y Rhyl
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw am arian tecach i gefnogi cartrefi gofal a'u preswylwyr.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn rhoi sylwadau ar ôl iddo ymweld â Chartref Preswyl Dewi Sant yn y Rhyl.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd i gael gwahoddiad i'r cartref i gwrdd â'r tîm a'r preswylwyr sy'n gweithio'n galed a dysgu mwy am y sector gofal a'r heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Roedd hi’n boen meddwl mawr clywed am bryderon am ddyfodol cartrefi bach, annibynnol, a sut mae'n amlwg nad yw cyllid llywodraeth leol ar gyfer lleoliadau cartrefi preswyl yn ddigonol.
Mae gwir angen i gynghorau Gogledd Cymru fod yn fwy tryloyw gyda threfniadau pennu ffioedd ac i gynghorwyr lleol fynd i'r afael â'r problemau hyn.
Mae'n achos pryder mawr ac mae'n rhywbeth rydw i wedi ei godi'n aml yn y Senedd a byddaf yn parhau i wneud hynny yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid.
Mae Cartref Preswyl Dewi Sant yn gartref gofal o safon uchel, gyferbyn â thraeth a phromenâd y Rhyl a dim ond milltir o'r brif ganolfan siopa gyda staff a rheolwyr yn ymfalchïo am gynnig y gofal o'r ansawdd gorau i breswylwyr.
Maen nhw’n croesawu preswylwyr am gyfnodau hir neu fyr, arosiadau ymadfer a gwyliau gyda chynlluniau gofal unigol yn cael eu gwerthuso a'u hadolygu'n rheolaidd.
Mae rhaglenni gweithgareddau hefyd yn cael eu trefnu ar y cyd gan y staff a'r preswylwyr sy'n darparu amser hamdden lle gall preswylwyr barhau i ymddiddori mewn bywyd a chynnal eu sgiliau a'u hyder.