Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, recently joined fellow MSs to visit Gareth Wyn Jones’ farm in Llanfairfechan.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, along with Aberconwy MS, Janet Finch-Saunders, Samuel Kurtz, Shadow Minister for Rural Affairs and the Welsh Language and Paul Davies MS, met with the farming TV personality to discuss ways of incorporating tourism with farming.
Mr Rowlands, a keen supporter of the agriculture industry and Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism said:
I was delighted to have the opportunity to meet with Gareth and talk to him about how we can get farming more involved with tourism in North Wales.
We had a really enthusiastic discussion with several ideas being discussed including plans to run bespoke tours of the Welsh hill farms for cruise ship passengers.
Holyhead is increasingly welcoming more cruise ships each year and we need to be proactive and come up with ideas to offer something different for shore excursions and I think it is a great idea to involve local farms.
Everybody knows how passionate I am about encouraging more tourists to North Wales and with the increase in visiting cruise ships, we have a wonderful opportunity to showcase what we have to offer.
Janet Finch-Saunders said:
Gareth is doing a fantastic job championing the agricultural sector and helping bring the world to Wales.
I recently led a debate in the Welsh Parliament where I highlighted the need for the Welsh Labour and Plaid Cymru cooperation Government to build on agri-tourism, develop a strong brand for Wales abroad, and address the major failings of Visit Wales.
You can be sure that I am committed to continue using the levers at my disposal to boost farming and tourism in Wales.
Gareth Wyn Jones is the nation’s favourite farmer and star of the BBC TV series ‘A family farm’. He was born in the beautiful Carneddau mountains in North Wales and has lived all his life at Ty’n Llwyfan, the windswept slopes where his family have farmed for 350 years.
Sam Rowlands AS yn ymweld â fferm personoliaeth deledu gyfarwydd yng Ngogledd Cymru
Ymunodd Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, â chyd-Aelodau o’r Senedd i ymweld â fferm Gareth Wyn Jones yn Llanfairfechan yn ddiweddar.
Cyfarfu Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, ynghyd ag AS Aberconwy, Janet Finch-Saunders, Samuel Kurtz, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru yr Wrthblaid a Paul Davies AS, â'r ffermwr adnabyddus i drafod ffyrdd o ymgorffori twristiaeth gyda ffermio.
Meddai Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd y diwydiant amaeth a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd â Gareth a siarad gydag ef am sut y gallwn ymwneud mwy â thwristiaeth yn y Gogledd.
Cawsom drafodaeth frwdfrydig iawn gyda sawl syniad yn cael ei drafod gan gynnwys cynlluniau i gynnal teithiau pwrpasol o ffermydd mynydd Cymru ar gyfer teithwyr llongau mordeithio.
Mae Caergybi yn croesawu mwy a mwy o longau mordeithio bob blwyddyn ac mae angen i ni fod yn rhagweithiol a meddwl am syniadau i gynnig rhywbeth gwahanol ar gyfer teithiau ar y glannau ac rwy'n credu ei bod yn syniad gwych cynnwys ffermydd lleol.
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog mwy o dwristiaid i’r Gogledd a gyda'r cynnydd mewn ymweliadau llongau mordeithio, mae gennym gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig.
Meddi Janet Finch-Saunders:
Mae Gareth yn gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo'r sector amaethyddol ac yn helpu i ddod â'r byd i Gymru.
Yn ddiweddar arweiniais ddadl yn y Senedd lle tynnais sylw at yr angen i Lywodraeth gydweithredol Llafur Cymru a Phlaid Cymru adeiladu ar dwristiaeth amaethyddol, datblygu brand cryf i Gymru dramor, a mynd i'r afael â methiannau mawr Croeso Cymru.
Gallaf eich sicrhau fy mod wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio popeth sydd ar gael i mi i hybu ffermio a thwristiaeth yng Nghymru.
Gareth Wyn Jones yw hoff ffermwr y genedl a seren cyfres deledu'r BBC, 'A family farm'. Cafodd ei eni ym mnyddoedd hardd y Carneddau yn y Gogledd ac mae wedi byw ar hyd ei oes yn Nhy'n Llwyfan, y llethrau gwyntog lle mae ei deulu wedi ffermio ers 350 o flynyddoedd.