Sam Rowlands MS for North Wales is calling on the Welsh Government to ensure people in Wales are fully informed over their handling of the pandemic.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Welsh Conservative and Shadow Minister for Local Government asked the Trefyndd, Lesley Griffiths MS for a statement on the Welsh Government's role in the UK COVID-19 inquiry.
He said:
It is a sad fact, isn't it, that Wales has the highest COVID-19 death rate across the United Kingdom. Regretfully, throughout the pandemic, lives were torn apart and our everyday normal way of living was completely transformed.
I am sure you will agree that when it comes to great power and great decision making, great responsibility and accountability must also take place. It is only right that the actions of the Welsh Government during the pandemic are properly scrutinised and properly communicated to the people of Wales.
Despite this the COVID-19 Bereaved Families for Justice group recently said, and I quote, 'We know how Welsh Government and the First Minister have turned their backs on us', 'You've done nothing for bereaved families in Wales; there are still no answers, no lessons learnt, nothing'.
What is the Welsh Government's response to that statement by the COVID-19 bereaved families for justice group, and what action is being taken to ensure that people in Wales get the answers that they, their families, and their friends deserve?
The Minister said the First Minister regularly meets with the group and met them earlier either this month or certainly in August and would continue to meet with them as and when required.
Mr Rowlands added:
This is all very disappointing. Bereaved families deserve so much more from the Welsh Government who need to be held to account and scrutinised over their role in dealing with the pandemic.
Mae Sam Rowlands AS am weld proses o graffu'n fanwl ar Lywodraeth Cymru ynghylch y ffordd y gwnaeth ymdrin â phandemig COVID-19
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl Cymru yn cael gwybodaeth lawn am ei hymdriniaeth o'r pandemig.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog yr Wrthblaid ar Lywodraeth Leol i, Lesley Griffiths AS, y Trefnydd, am ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn ymchwiliad COVID-19 y DU.
Meddai:
Mae'n ffaith drist, yn tydy, bod gan Gymru'r gyfradd farwolaethau COVID-19 uchaf ledled y Deyrnas Unedig. Yn anffodus, gydol y pandemig, cafodd bywydau eu chwalu ac fe gafodd y ffordd arferol rydyn ni'n byw o ddydd i ddydd ei drawsnewid yn llwyr.
Rydw i'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, pan ddaw hi'n fater o rym sylweddol a phenderfyniadau sylweddol, mae'n rhaid cael cyfrifoldeb ac atebolrwydd sylweddol hefyd. Dyw hi ond yn iawn fod cyfle i graffu'n briodol ar weithredoedd Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig a bod cyfle i gyfathrebu'n briodol y gweithredoedd hyn i bobl Cymru.
Er gwaethaf hyn, fe ddywedodd y grŵp teuluoedd COVID-19 sy'n galaru ac am gael cyfiawnder, ac rydw i'n dyfynnu, 'Gwyddom sut mae Llywodraeth Cymru a Prif Weinidog wedi troi eu cefn arnom', 'Dydych chi ddim wedi gwneud unrhyw beth i deuluoedd sy'n galaru yng Nghymru; does dim atebion o hyd, dim gwersi wedi'u dysgu, dim byd'.
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r datganiad hwnnw gan y grŵp teuluoedd COVID-19 sy'n galaru ac am gael cyfiawnder, a pha gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr atebion y maen nhw, eu teuluoedd, a'u ffrindiau yn eu haeddu?
Dywedodd y Gweinidog bod y Prif Weinidog yn cyfarfod â'r grŵp yn rheolaidd a'i fod wedi eu cyfarfod yn gynharach naill ai'r mis hwn neu'n sicr ym mis Awst ac y byddai'n parhau i gyfarfod â nhw yn ôl yr angen.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae hyn i gyd yn siomedig iawn. Mae teuluoedd sydd mewn galar yn haeddu cymaint mwy gan Lywodraeth Cymru ac mae angen ei dwyn i gyfrif a chraffu arni ynghylch ei rôl wrth ymdrin â'r pandemig.