Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a campaign to warn people against being scammed this Christmas.
Mr Rowlands is supporting the Financial Conduct Authority who have launched a campaign against loan fee fraud, targeting the rising financial stress among UK families.
He said:
These days more than ever and especially at this time of the year we all have to be on the lookout for scammers and take heed of any advice on offer.
The FCA’s latest research reveals an extremely worrying trend of overspending during the festive season, particularly among parents with young children.
The findings show that in Wales 53% of adults feeling pressured to overspend and 38% worried about meeting their Christmas expenses.
It is a real shame that there are unscrupulous people out there attempting to scam the public by conning them into paying a fee for a loan which they never receive.
The financial watchdog’s research shows that over a quarter, 29%, of parents are taking on debt for Christmas expenses, with the average amount borrowed rising significantly from £305 last year to £412 this year.
This increased borrowing comes with risks, primarily the threat of loan fee fraud, where consumers are tricked into paying a fee for a loan they never receive. The FCA reports that victims of such scams lose an average of £255.
With Christmas around the corner, and scammers looking to exploit rising financial stress, the FCA has launched its latest loan fee fraud campaign.
Loan fee fraud or advance fee fraud is a common scam where individuals are conned into paying a fee for a loan when fraudsters often ask for between £25 and £450. However, you won’t receive the loan after the fee has been paid.
To combat the rising threat of loan fee fraud, the FCA is taking measures to raise awareness and urging consumers looking for a loan to do the 3-step check to protect themselves from scams:
- If you are cold called or emailed, it could be a scam.
- Or if you’re asked to pay an upfront fee, it could be a scam.
- Or if you’re asked to pay quickly or unusually, it could be a scam.
Therese Chambers , Executive Director of Enforcement and Market Oversight, said:
Fraudsters will take advantage even of parents’ desire to give their children a good Christmas. Don’t let them.
Remember the 3-step check and protect yourself and your loved ones from loan fee fraud. If you are cold called or emailed, it could be a scam. If you’re asked to pay an upfront fee, it could be a scam. And if you are asked to pay quickly or unusually, it could be a scam.
Sam Rowlands AS yn rhybuddio etholwyr i fod yn ymwybodol o dwyll ffioedd benthyca
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i rybuddio pobl rhag cael eu twyllo y Nadolig hwn.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol sydd wedi lansio ymgyrch yn erbyn twyll ffioedd benthyca, sy’n targedu'r straen ariannol cynyddol ymhlith teuluoedd y DU.
Meddai:
Y dyddiau hyn yn fwy nag erioed ac yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae'n rhaid i ni i gyd fod yn wyliadwrus o sgamwyr a chymryd sylw o unrhyw gyngor sydd ar gael.
Mae ymchwil ddiweddaraf yr FCA yn datgelu tuedd bryderus iawn o orwario yn ystod tymor yr ŵyl, yn enwedig ymhlith rhieni sydd â phlant ifanc.
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod 53% o oedolion yng Nghymru yn teimlo dan bwysau i orwario ac mae 38% yn poeni am dalu am eu costau Nadolig.
Mae'n drueni mawr fod yna bobl ddiegwyddor allan yna yn ceisio sgamio'r cyhoedd drwy eu twyllo i dalu ffi am fenthyciad dydyn nhw byth yn ei dderbyn.
Mae ymchwil y corff gwarchod ariannol yn dangos bod dros chwarter, 29%, o rieni yn ysgwyddo dyledion am dreuliau'r Nadolig, gyda'r swm cyfartalog a fenthycwyd yn codi'n sylweddol o £305 y llynedd i £412 eleni.
Mae'r cynnydd hwn mewn benthyca yn dod â risgiau, yn bennaf y bygythiad o dwyll ffioedd benthyca, lle mae defnyddwyr yn cael eu twyllo i dalu ffi am fenthyciad nad ydynt byth yn ei dderbyn. Mae'r FCA yn dweud bod dioddefwyr sgamiau o'r fath yn colli £255 ar gyfartaledd.
Gyda'r Nadolig yn agosáu, a sgamwyr yn ceisio manteisio ar straen ariannol cynyddol, mae'r FCA wedi lansio ei ymgyrch twyll ffioedd benthyca diweddaraf.
Mae twyll ffioedd benthyca neu dwyll ffioedd ymlaen llaw yn sgam gyffredin lle mae unigolion yn cael eu twyllo i dalu ffi am fenthyciad ac mae’r twyllwyr yn aml yn gofyn am rhwng £25 a £450. Fodd bynnag, ni fyddwch yn derbyn y benthyciad ar ôl talu'r ffi.
Er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol o dwyll ffioedd benthyca, mae'r FCA yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth ac mae’n annog defnyddwyr sy'n chwilio am fenthyciad i wneud y gwiriad 3 cham canlynol er mwyn amddiffyn eu hunain rhag sgamiau:
- Os ydych yn cael galwad ffôn neu neges e-bost annisgwyl, gallai fod yn sgam.
- Neu os gofynnir i chi dalu ffi ymlaen llaw, gallai fod yn sgam.
- Neu os gofynnir i chi dalu'n gyflym neu mewn ffordd anarferol, gallai fod yn sgam.
Meddai Therese Chambers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gorfodi a Throsolwg o'r Farchnad:
Bydd twyllwyr yn manteisio hyd yn oed ar awydd rhieni i roi Nadolig da i'w plant. Peidiwch â gadael iddyn nhw lwyddo.
Cofiwch y gwiriad 3 cham a gofalwch eich bod yn amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag twyll ffioedd benthyca. Os ydych chi'n derbyn galwad ffôn neu neges e-bost annisgwyl, gallai fod yn sgam. Os gofynnir i chi dalu ffi ymlaen llaw, gallai fod yn sgam. Ac os gofynnir i chi dalu'n gyflym neu mewn ffordd anarferol, gallai fod yn sgam.