Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is warning motorists not to pick up an unwanted Christmas present this month.
Mr Rowlands, harsh critic of the recently introduced 20mph speed limit on many arterial roads throughout Wales, urges drivers to be aware of speed restrictions when driving.
He said:
Everybody knows that I am still totally against this ridiculous 20mph speed limit except outside schools and hospitals and where it is needed but with Christmas fast approaching it is worth reminding people to watch their speed.
From this month the default, 20mph speed limit is being actively enforced and motorists risk being fined and given points on their licences if exceeding the speed limit.
All this is going ahead despite clear opposition to the introduction of 20mph move with almost 470,000 people signing a petition against the crazy idea. We even had a magistrate resigning in Wrexham because he did not feel he could fine people for speeding in 20mph areas.
Even now local councils in North Wales are currently looking to change back some roads to 30mph which, although welcome, is quite unbelievable and totally confusing for motorists.
Meanwhile the 20mph fiasco continues and some people are driving at ridiculously low speeds in 20mph areas causing long tailbacks on roads which have never been affected before.
Many of my constituents don’t understand why Mark Drakeford and his Labour colleagues are spending vast sums of money on implementing the new speed limit instead of using this funding to help people waiting for NHS treatment, or tackling many of our potholed roads.
The whole thing is a complete farce and as usual it is the people going about their daily lives who will suffer.
Sam Rowlands AS yn rhybuddio gyrwyr i beidio â chael eu dal ar ffyrdd y Gogledd dros y Nadolig
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn rhybuddio gyrwyr i beidio â chael anrheg Nadolig digroeso y mis hwn.
Mae Mr Rowlands, sy’n feirniad hallt o’r terfyn cyflymder 20mya a gyflwynwyd yn ddiweddar ar lawer o ffyrdd prifwythiennol Cymru, yn annog gyrwyr i fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau cyflymder wrth yrru.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod mod i’n dal i wrthwynebu’r terfyn cyflymder 20mya hurt hwn yn llwyr, ac eithrio y tu allan i ysgolion ac ysbytai a ble mae ei angen, ond gyda Nadolig ar ein gwarthaf mae’n werth atgoffa pawb i yrru’n ofalus.
O’r mis hwn mae’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn cael ei orfodi ac mae gyrwyr mewn perygl o gael dirwy a phwyntiau ar eu trwydded os ydyn nhw’n gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder.
Mae hyn i gyd yn mynd yn ei flaen er gwaethaf y gwrthwynebiad clir i gyflwyno 20mya gyda bron i 470,000 o bobl yn llofnodi deiseb yn erbyn y syniad gwallgof. Mae hyd yn oed ynad wedi ymddiswyddo yn Wrecsam gan nad oedd yn teimlo y gallai ddirwyo pobl am yrru’n rhy gyflym mewn ardaloedd 20mya.
Hyd yn oed rŵan mae cynghorau lleol y Gogledd yn edrych i newid rhai o’r ffyrdd yn ôl i 30mya sydd, er yn gam i’w groesawu, yn anhygoel ac yn hollol ddryslyd i yrwyr.
Yn y cyfamser, mae’r ffiasgo 20mya yn parhau a rhai’n gyrru yn wirion o araf mewn ardaloedd 20mya gan achosi ciwiau hir ar ffyrdd sydd erioed wedi’u heffeithio o’r blaen.
Dyw llawer o’m hetholwyr ddim yn deall pam mae Mark Drakeford a’i gydweithwyr yn y Blaid Lafur yn gwario llawer iawn o arian ar weithredu’r terfyn cyflymder newydd yn lle defnyddio’r arian i helpu pobl sy’n aros am driniaeth gan y GIG, neu i drwsio ffyrdd llawn tyllau.
Mae’r holl beth yn ffars lwyr ac fel sy’n wir o hyd, y bobl sy’n ceisio byw eu bywydau bob dydd sy’n dioddef.