Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges the Irish Government not to make the same mistake as Wales.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of the Welsh Labour Government’s disastrous roll out of the new default 20mph speed limit, was commenting during an interview with RTE, Ireland’s main broadcaster.
Irelands’ Department of Transport is currently carrying out a Speed Limit Review and among the recommendations is for some urban roads, town centres and housing estates across Ireland to become 30km/h, or 18.6mph.
Mr Rowlands said:
Since the new default speed limit of 20mph came into force last month my inbox continues to be filled with messages from extremely frustrated and angry constituents about this, with almost half a million people signing a petition against this barmy idea.
Thanks to pressure from Welsh Conservatives and from the thousands who have signed the petition or written letters of complaint Welsh Government now appears to be open to consider more roads to being exempt.
The millions of pounds spent on yet another Welsh Labour Government vanity project would have been better going to local authorities who are struggling to balance their books and to help our creaking NHS.
I understand that the Irish Government is currently reviewing their speed limits so I would urge them to think very carefully and listen to the public about reducing the default speed limit as it really has been a disaster in Wales.
As chair of the Cross-Party Group on Tourism, I am also deeply concerned about how this will affect the number of people coming to my constituency of North Wales. Who is going to come here if they possibly face being fined £100 and receive three points on their licence.
The roll out of this ridiculous blanket speed limit was a complete shambles with local authorities not ready and worst of all impacting on people going about their daily lives.
I have been told that many motorists are driving at ridiculously low speeds in 20mph areas causing long tailbacks on roads which have never been affected before. The impact is also being felt by our emergency services.
I personally will continue to keep pressure on Welsh Government and continue to fight this barmy legislation.
Sam Rowlands AS yn rhybuddio pobl Iwerddon am effaith drychinebus terfyn cyflymder 20mya cyffredinol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Iwerddon i beidio â gwneud yr un camgymeriad â Chymru.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a beirniad llym o gyflwyniad trychinebus Llywodraeth Lafur Cymru o'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd, yn gwneud sylwadau yn ystod cyfweliad gyda RTE, prif ddarlledwr Iwerddon.
Ar hyn o bryd mae Adran Drafnidiaeth Iwerddon yn cynnal Adolygiad Terfyn Cyflymder ac ymhlith yr argymhellion mae i rai ffyrdd, canol trefi ac ystadau tai trefol ledled Iwerddon ddod yn 30km/h, neu 18.6mya.
Meddai Mr Rowlands:
Ers i'r terfyn cyflymder newydd cyffredinol o 20mya ddod i rym fis diwethaf mae fy mewnflwch yn parhau i gael ei lenwi â negeseuon gan etholwyr hynod rwystredig a dig ynglŷn â hyn, gyda bron i hanner miliwn o bobl yn llofnodi deiseb yn erbyn y syniad gwallgof hwn.
Diolch i bwysau gan y Ceidwadwyr Cymreig a'r miloedd sydd wedi arwyddo'r ddeiseb neu lythyron cwyno ysgrifenedig mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru bellach yn fodlon ystyried eithrio rhagor o ffyrdd.
Byddai'n well pe byddai’r miliynau o bunnoedd sy'n cael ei wario ar brosiect hurt arall gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi mynd i awdurdodau lleol sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu pen uwchben y dŵr ac i helpu ein GIG sydd dan gymaint o bwysau.
Rwy'n deall bod Llywodraeth Iwerddon yn adolygu eu terfynau cyflymder ar hyn o bryd felly byddwn yn eu hannog i feddwl yn ofalus iawn a gwrando ar y cyhoedd am leihau'r terfyn cyflymder cyffredinol gan ei fod wedi bod yn drychineb yng Nghymru mewn gwirionedd.
Fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, rwyf hefyd yn bryderus iawn ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar nifer y bobl sy'n dod i'm hetholaeth i yng Ngogledd Cymru. Pwy sy'n mynd i ddod yma os ydyn nhw o bosibl yn wynebu dirwy o £100 ac yn derbyn tri phwynt ar eu trwydded.
Roedd cyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol chwerthinllyd hwn yn draed moch llwyr gydag awdurdodau lleol ddim yn barod ac yn waeth na dim mae’n effeithio ar bobl wrth iddynt fyw eu bywydau bob dydd.
Rwyf wedi cael gwybod bod llawer o fodurwyr yn gyrru ar gyflymder chwerthinllyd o isel mewn ardaloedd 20mya gan achosi ciwiau hir ar ffyrdd nad ydyn nhw erioed wedi cael eu heffeithio o'r blaen. Mae'r effaith hefyd yn cael ei theimlo gan ein gwasanaethau brys.
Yn bersonol, byddaf yn dal ati i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ac yn parhau i frwydro yn erbyn y ddeddfwriaeth wallgof hon.