Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted that Wrexham University has been ranked the top in Wales for teaching for the second year running.
Mr Rowlands was commenting after it was revealed that Wrexham University has been named the best university in Wales in the latest National Students Survey.
He said:
I am absolutely delighted to hear that once again Wrexham University has received another accolade. The university continues to go from strength to strength with its lecturers and staff clearly extremely popular with students.
It is great to see so many students enjoying studying in Wrexham which as a city also continues to be a destination favourite and attracts visitors from all over the world.
Congratulations must go to everyone at Wrexham University for all their hard work and for continuing to put the place firmly on the higher education map.
Wrexham University has been ranked the top university in Wales for teaching for the second year running in the latest National Student Survey.
The survey, in which nearly half a million students from across the UK have fed back on their university experience, also places the university first out of Welsh universities for assessment and feedback and joint first out of Welsh universities for Students’ Union.
The university was also placed second out of Welsh universities for overall satisfaction and student voice, as well as top 10 in the UK for overall satisfaction.
In terms of overall satisfaction score, Wrexham University achieved a score of 84% in the survey – an improvement on last year’s 81%, and also exceeding the sector result across Welsh, Scottish and Northern Irish providers of 80%.
At a subject specific level, some areas of the institution received some outstanding results, including Adult Nursing, which was ranked top in the UK for teaching on my course for the second year in succession.
The subject was also ranked first in the UK for learning opportunities; assessment and feedback; and organisation and management – and second in the UK for the academic support provided to students.
While the subject area of Sociology – representing results from students on the BA (Hons) in Criminology and Criminal Justice – was ranked first in the UK for teaching, as well as joint first for academic support.
Professor Maria Hinfelaar, Vice-Chancellor at Wrexham University, said:
We are thrilled to have been ranked top out of Welsh universities for teaching, as well as assessment and feedback and joint first out of Welsh universities for Students’ Union – which is how our students rate how well our Students’ Union represents their academic interests.
These results are excellent – and I would like to take this opportunity to congratulate staff for their hard work as well as our Students’ Union. A big thank you to our students, who took the time to feedback on their experience with us.
We’re now in the period of clearing and we’re pleased to report that our applications are up for the next academic year – both compared to our own this time last year and against the sector.
Sam Rowlands AS yn croesawu llwyddiant parhaus prifysgol yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wrth ei fodd fod Prifysgol Wrecsam wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am addysgu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Gwnaeth Mr Rowlands y sylw ar ôl cyhoeddi bod Prifysgol Wrecsam wedi cael ei henwi'n brifysgol orau Cymru yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod Prifysgol Wrecsam unwaith eto wedi derbyn anrhydedd arall. Mae'r brifysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth gyda'i darlithwyr a'i staff yn amlwg yn hynod boblogaidd ymhlith myfyrwyr.
Mae'n wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn mwynhau astudio yn Wrecsam sydd fel dinas hefyd yn parhau i fod yn gyrchfan boblogaidd ac yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd.
Rhaid llongyfarch pawb ym Mhrifysgol Wrecsam am eu holl waith caled ac am barhau i osod y brifysgol yn gadarn ar y map addysg uwch.
Mae Prifysgol Wrecsam wedi cael ei rhestru fel y brifysgol orau yng Nghymru am addysgu am yr ail flwyddyn yn olynol yn yr Arolwg Cenedlaethol diweddaraf o Fyfyrwyr.
Mae'r arolwg, yn sgil ymatebion bron i hanner miliwn o fyfyrwyr o bob rhan o'r DU ar eu profiad yn y brifysgol, hefyd yn rhoi'r brifysgol ar frig prifysgolion Cymru o ran asesu ac adborth ac yn gydradd gyntaf o brifysgolion Cymru ar gyfer Undeb y Myfyrwyr.
Daeth y brifysgol yn ail ym mhrifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol a llais myfyrwyr, yn ogystal ag yn 10 uchaf y DU am foddhad cyffredinol.
O ran sgôr boddhad cyffredinol, cafodd Prifysgol Wrecsam sgôr o 84% yn yr arolwg - gwelliant ar 81% y llynedd, a hefyd rhagorodd ar ganlyniad y sector ar draws darparwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o 80%.
Ar lefel pwnc penodol, cafodd rhai meysydd o'r sefydliad rai canlyniadau rhagorol, gan gynnwys Nyrsio Oedolion, a oedd ar y brig yn y DU am yr “addysgu ar fy nghwrs” am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd y pwnc hefyd yn y safle cyntaf yn y DU am gyfleoedd dysgu; asesu ac adborth; a threfnu a rheoli – ac yn ail yn y DU am y cymorth academaidd a ddarperir i fyfyrwyr.
Tra bod maes pwnc Cymdeithaseg – sy'n cynrychioli canlyniadau gan fyfyrwyr ar y BA (Anrh) mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol – yn y safle cyntaf yn y DU am addysgu, yn ogystal â bod yn gydradd gyntaf am gymorth academaidd.
Meddai’r Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam:
Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y brig ymysg prifysgolion Cymru am addysgu, yn ogystal ag asesu ac adborth ac yn gydradd gyntaf o brifysgolion Cymru ar gyfer Undeb y Myfyrwyr - sef sut mae ein myfyrwyr yn dweud pa mor dda y mae ein Hundeb Myfyrwyr yn cynrychioli eu diddordebau academaidd.
Mae'r canlyniadau hyn yn ardderchog - a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch staff am eu gwaith caled yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr. Diolch yn fawr iawn i'n myfyrwyr, a roddodd o'u hamser i roi adborth ar eu profiadau gyda ni.
Rydyn ni nawr yn y cyfnod clirio ac rydyn ni'n falch o adrodd bod ein ceisiadau ar i fyny am y flwyddyn academaidd nesaf - o'i gymharu â'n rhai ni ar yr adeg hon y llynedd ac yn erbyn y sector.