Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing an awareness session in Bangor on Dee later this month.
Mr Rowlands, a keen supporter of bringing the community together is calling on his constituents to support the event being held in the village hall on Tuesday July 16.
He said:
I am a great believer in helping to raise awareness of what help is out there for people living in a community such as Bangor on Dee and neighbouring villages.
Not only will it give residents the opportunity to meet local organisations but it will also allow them to catch up on whatever is happening in their community.
It is good to see the event being organised by the local PCSO who plays a very important role within the community.
The free community engagement event has been organised by North Wales Police and Partner Agencies on Tuesday July 16 between 2-4pm.
Residents from Bangor on Dee and neighbouring villages are being invited to come and meet representatives from partner agencies such as Wrexham Council, Age Connect Wales, Care and Repair, PACT and the Alzheimer Society to find out how they can help them.
Free, coffee, tea and cake is available.
Further details from PCSO Dean Sawyer on [email protected]
Sam Rowlands AS yn croesawu digwyddiad i'r gymuned
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi sesiwn ymwybyddiaeth ym Mangor Is-coed yn ddiweddarach yn y mis.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o ddod â'r gymuned at ei gilydd, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi'r digwyddiad sy'n cael ei gynnal yn neuadd y pentref ddydd Mawrth 16 Gorffennaf.
Meddai:
Rwy'n credu'n gryf mewn helpu i godi ymwybyddiaeth o ba help sydd ar gael i bobl sy'n byw mewn cymuned fel Bangor-is-coed a phentrefi cyfagos.
Nid yn unig y bydd yn rhoi cyfle i drigolion gyfarfod â sefydliadau lleol ond bydd yn rhoi cyfle iddyn nhw gael y newyddion diweddaraf am beth bynnag sy'n digwydd yn eu cymuned hefyd.
Mae'n dda gweld y digwyddiad yn cael ei drefnu gan swyddog lleol Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy'n chwarae rhan bwysig iawn yn y gymuned.
Trefnir y digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned am ddim gan Heddlu Gogledd Cymru ac Asiantaethau Partner ddydd Mawrth 16 Gorffennaf rhwng 2-4pm.
Gwahoddir trigolion Bangor-is-coed a phentrefi cyfagos i ddod i gyfarfod â chynrychiolwyr o asiantaethau partner fel Cyngor Wrecsam, Age Connect Wales, Gofal a Thrwsio, PACT a'r Gymdeithas Alzheimer i weld sut y gallan nhw eu helpu.
Mae paned, coffi a chacen ar gael.
Manylion pellach gan Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Dean Sawyer ar [email protected]