Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed ambitious plans to upgrade Llangollen church.
Mr Rowlands said:
I am delighted to see almost £100,000 has been awarded to St Collen’s Church by the National Lottery Heritage Fund which will help make it into more of a community hub.
These days more than ever, it is vital out local churches are supported and the upgrading work will mean the place can be used by local organisations and for other events.
It is also great to see National Lottery Funding continuing to help projects in North Wales.
St Collen’s Church, which dates from the seventh century, plans to make space for a stage, add toilet facilities and improve the heating and lighting of the Grade 1 listed building.
The aim is to create a more flexible and inclusive space to act as a community hub to be enjoyed by a variety of local organisations.
The National Lottery Heritage Fund has awarded St Collen’s £94,886 for the first phase of the work, which subject to faculty consent will be carried out over the next 12 months.
The Priest-in-charge of St Collen’s, Father Lee Taylor said they were delighted to receive the substantial grant.
He said:
It will enable us to start work on our long-standing vision to re-order the church in a way it will enable it to better meet the needs of the current century.
St Collen’s is one of only seven places across the UK to receive National Lottery Heritage development funding to finalise plans for creating community hubs for engagement, education, creativity and wellbeing.
The plans to transform the church, known as The Genesis Project, are being led by a small group of local volunteers.
St Collen’s Church is part of the Valle Crucis Mission Area, one of 20 which make up the Diocese of St Asaph.
Sam Rowlands AS yn croesawu arian Treftadaeth y Loteri ar gyfer eglwys yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi croesawu cynlluniau uchelgeisiol i uwchraddio eglwys yn Llangollen.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o weld bod bron i £100,000 wedi'i ddyfarnu i Eglwys Sant Collen gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a fydd yn helpu i'w gwneud yn fwy o ganolfan gymunedol.
Mae'n hanfodol bod eglwysi lleol yn cael cymorth y dyddiau hyn yn fwy nag erioed, ac mae'r gwaith uwchraddio yn golygu y bydd sefydliadau lleol yn gallu ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau eraill.
Mae hefyd yn wych gweld cyllid y Loteri yn parhau i helpu prosiectau yn y Gogledd.
Mae Eglwys Sant Collen, sy'n dyddio o'r seithfed ganrif, yn bwriadu gwneud lle ar gyfer llwyfan, ychwanegu cyfleusterau toiled a gwella system wresogi a goleuo'r adeilad rhestredig Gradd 1.
Y nod yw creu gofod mwy hyblyg a chynhwysol i fod yn ganolbwynt cymunedol i'w fwynhau gan amrywiaeth o sefydliadau lleol.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £94,886 i Eglwys Sant Collen, ar gyfer cam cyntaf y gwaith, a gaiff ei gyflawni dros y 12 mis nesaf yn amodol ar ganiatâd y gyfadran.
Dywedodd Offeiriad â chyfrifoldeb am Sant Collen, y Tad Lee Taylor eu bod yn falch iawn o dderbyn y grant sylweddol.
Meddai:
Bydd yn ein galluogi i ddechrau gweithio ar ein gweledigaeth hirsefydlog i ailwampio'r eglwys mewn ffordd y bydd yn ei galluogi i ddiwallu anghenion y ganrif bresennol yn well.
Mae Sant Collen ymhlith dim ond saith lle ar draws y DU i dderbyn arian datblygu Treftadaeth y Loteri i gwblhau cynlluniau ar gyfer creu hybiau cymunedol ar gyfer ymgysylltu, addysg, creadigrwydd a lles.
Mae'r cynlluniau i drawsnewid yr eglwys, a elwir yn Brosiect Genesis, yn cael eu harwain gan grŵp bach o wirfoddolwyr lleol.
Mae Eglwys Sant Collen yn rhan o Ardal Genhadaeth Glyn y Groes, un o 20 sy'n rhan o Esgobaeth Llanelwy.