Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see a new app which will transform dementia care, developed in North Wales.
Mr Rowlands, a keen supporter of Dementia UK, and who often raises awareness of the illness said:
As a keen supporter of any moves which ultimately helps and supports people suffering from this disease and their families, it is good to see this new app being introduced to help create more dementia friendly environments and supporting patients.
It is also great news that the app was developed and tested here in North Wales. Well done to all those involved.
As a Member of the Welsh Parliament for North Wales I am always happy to support and help to highlight this debilitating illness and will continue to raise awareness in the Welsh Parliament.
A team from Betsi Cadwaladr University Health Board worked with experts from the University of Worcester to create the app, which will replace the current paper-based assessment tool used to assess how dementia-friendly care environments are.
The app is available in both Welsh and English and is aimed at helping health and care staff together with people living with dementia and their carers to assess and improve care environments for people living with dementia. The tools are available for wards, hospitals, care homes, supported housing, health centres and gardens/outdoor spaces.
Professor Tracey Williamson, Consultant Nurse (Dementia) and Honorary Professor of Patient and Family Engagement, said: “The work has complemented our digital ambitions and we welcome how easy the apps are to use which will save staff time, develop digital skills and free up computers. The app also will be used as valuable learning tools for use with staff and students as we recognise how important it is to get indoor and outside spaces and gardens, right for patients.
“We are pleased the app has been developed in North Wales, that the assessment tools are now available in Welsh for the first time and that they will be freely available globally.”
The app can be downloaded from the University of Worcester’s website here, from where the original paper-based tools on which the app was based are still available.
Sam Rowlands AS yn croesawu ap dementia newydd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld ap newydd a fydd yn trawsnewid gofal dementia, wedi’i ddatblygu yng Ngogledd Cymru.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr brwd Dementia UK, ac sy'n aml yn codi ymwybyddiaeth o'r clefyd:
Fel cefnogwr brwd o unrhyw symudiadau sydd yn y pen draw yn helpu ac yn cefnogi pobl sy'n dioddef o'r clefyd hwn a'u teuluoedd, mae'n dda gweld yr ap newydd hwn yn cael ei gyflwyno i helpu i greu mwy o amgylcheddau sy'n deall dementia a chefnogi cleifion.
Mae hefyd yn newyddion gwych bod yr ap wedi cael ei ddatblygu a'i brofi yma yng Ngogledd Cymru. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.
Fel aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, rwyf bob amser yn hapus i gefnogi a helpu i dynnu sylw at y clefyd nychus hwn a byddaf yn parhau i godi ymwybyddiaeth yn y Senedd.
Gweithiodd tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gydag arbenigwyr o Brifysgol Caerwrangon i greu'r ap, a fydd yn disodli'r offeryn asesu papur cyfredol a ddefnyddir i asesu i ba raddau mae amgylcheddau gofal yn deall dementia.
Mae'r ap ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a'i nod yw helpu staff iechyd a gofal ynghyd â phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr i asesu a gwella amgylcheddau gofal i bobl sy'n byw gyda dementia. Mae'r adnoddau ar gael ar gyfer wardiau, ysbytai, cartrefi gofal, tai â chymorth, canolfannau iechyd a gerddi/mannau awyr agored.
Meddai'r Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol (Dementia) ac Athro Anrhydeddus Ymgysylltu â Chleifion a Theuluoedd: "Mae'r gwaith wedi ategu ein huchelgeisiau digidol ac rydyn ni’n croesawu pa mor hawdd yw'r apiau i'w defnyddio a fydd yn arbed amser i staff, datblygu sgiliau digidol ac yn rhyddhau cyfrifiaduron. Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddefnyddio fel adnodd dysgu gwerthfawr i'w ddefnyddio gyda staff a myfyrwyr gan ein bod yn cydnabod pa mor bwysig yw cael mannau a gerddi dan do a thu allan, yn iawn i gleifion.
"Rydyn ni’n falch bod yr ap wedi'i ddatblygu yn y Gogledd, bod yr adnodd asesu bellach ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf ac y bydd ar gael yn hawdd ledled y byd."
Gellir lawrlwytho'r ap o wefan Prifysgol Caerwrangon yma, lle mae'r adnodd papur gwreiddiol oedd yn sail i’r ap ar gael o hyd.