Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted that Wrexham has been chosen to host such a prestigious event.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and chair of the Senedd’s Cross Party Group on Tourism said:
I am absolutely delighted to hear this news, what a wonderful accolade for Wrexham. It follows on from receiving city status and it is well deserved.
Everybody knows that Wrexham is a vibrant city and a destination of choice these days with a successful football team and an award winning university and to be chosen to host such an important festival for Welsh language and culture is fantastic for North Wales.
From a tourism point of view it is also a great opportunity to highlight the Wrexham area and promote our many attractions.
Organisers have announced that Wrexham will host the National Eisteddfod in 2025 with talks now being held on a venue. The last time the festival was held in Wrexham, in 2011, it attracted thousands of visitors from all over Wales and further afield.
Sam Rowlands AS yn croesawu'r newyddion y bydd Wrecsam yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol 2025
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wrth ei fodd bod Wrecsam wedi cael ei dewis i gynnal digwyddiad mor fawreddog.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Rwy'n falch iawn o glywed y newyddion da – mae’n gryn fraint i Wrecsam. Mae hyn yn dilyn derbyn statws dinas ac mae'n gwbl haeddiannol.
Mae pawb yn gwybod bod Wrecsam yn ddinas fywiog ac yn gyrchfan poblogaidd iawn, gyda thîm pêl-droed llwyddiannus a phrifysgol arobryn ac mae cael ein dewis i gynnal gŵyl mor bwysig i'r Gymraeg a'i diwylliant yn wych i Ogledd Cymru.
O safbwynt twristiaeth, mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at ardal Wrecsam a hyrwyddo ein hatyniadau di-ri.
Mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd Wrecsam yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025 gyda sgyrsiau nawr yn cael eu cynnal ar leoliad. Y tro diwethaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn 2011, denodd filoedd o ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.