Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to back a major sporting event heading to Wrexham, in September.
Mr Rowlands is urging people to support Stage two, of one of the world’s major cycling events, The Tour of Britain, for the first time in eight years.
He said:
I am delighted to see North Wales has been chosen once again as a venue for this prestigious race and particularly pleased that Wrexham will see the start and finish of Stage two.
It is a wonderful opportunity for local people to see world class riders in action and yet again promote this wonderful part of the world.
Cycling continues to be a very popular and growing sport in Wales and previous stages of the Tour of Britain, held in North Wales, has brought out the crowds to support the event and I am sure this will be the case on September 4.
The 2023 race starts in Greater Manchester on Sunday September 3 and finishes eight days later in South Wales. Along the way, riders will race through North Wales, East Yorkshire, Nottinghamshire, Suffolk, Essex, and Gloucestershire.
Stage two will start and finish in Wrexham on Monday September 4, starting at 10am and finishing around 4pm with grandstands and large screen set up so spectators can see the start and finish.
ITV4 will continue to broadcast live flag-to-flag coverage of every stage and nightly highlights show, allowing fans in the UK to watch wherever they are. The race will also be shown in over 150 countries worldwide, thanks to the event’s partnerships with Eurosport and the Global Cycling Network.
Wrexham last featured in the Tour when it co-hosted the race’s Grand Départ in 2015. Italian sprinter and former European champion Elia Viviani sprinted to victory that day, ahead of home favourite
Mark Cavendish, in front of an estimated crowd of 10,000 spectators.
More recently, the city hosted a stage start of the Women’s Tour, the Tour of Britain’s sister event, last June.
Sam Rowlands AS yn croesawu digwyddiad seiclo'r byd i Ogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi digwyddiad chwaraeon mawr sy'n dod i Wrecsam ym mis Medi.
Mae Mr Rowlands yn annog pobl i gefnogi Cymal Dau o un o ddigwyddiadau beicio mwyaf y byd, The Tour of Britain, am y tro cyntaf ers wyth mlynedd.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o weld bod Gogledd Cymru wedi cael ei ddewis unwaith eto fel lleoliad ar gyfer y ras fawreddog hon ac yn arbennig o falch y bydd Wrecsam yn gweld dechrau a gorffen Cymal Dau.
Mae'n gyfle gwych i bobl leol weld beicwyr o'r radd flaenaf wrthi, ac unwaith eto bydd y rhan wych hon o'r byd yn cael sylw.
Mae beicio'n parhau i fod yn gamp boblogaidd sy’n datblygu yng Nghymru ac mae cymalau blaenorol y Tour of Britain, a gynhaliwyd yn y gogledd, wedi denu'r torfeydd i gefnogi'r digwyddiad ac rwy'n siŵr y bydd yr un peth yn wir ar 4 Medi.
Bydd ras 2023 yn dechrau yn ardal Manceinion ddydd Sul 3 Medi ac yn gorffen wyth diwrnod yn ddiweddarach yn Ne Cymru. Ar hyd y ffordd, bydd beicwyr yn rasio trwy Ogledd Cymru, Dwyrain Swydd Efrog, Swydd Nottingham, Suffolk, Essex, a Swydd Gaerloyw.
Bydd Cymal Dau yn dechrau ac yn gorffen yn Wrecsam ddydd Llun 4 Medi, gan ddechrau am 10am a gorffen tua 4pm gyda stondinau a sgriniau mawr wedi'u gosod fel y gall gwylwyr weld y dechrau a'r diwedd.
Bydd ITV4 yn parhau i ddarlledu’n fyw gydol y ras, gyda sioe uchafbwyntiau nosweithiol, gan ganiatáu i gefnogwyr y DU wylio ble bynnag maen nhw. Bydd y ras hefyd yn cael ei dangos mewn dros 150 o wledydd bedwar ban byd, diolch i bartneriaethau’r digwyddiad gydag Eurosport a'r Rhwydwaith Beicio Byd-eang.
Ymddangosodd Wrecsam ddiwethaf yn y Tour ar ôl cyd-gynnal Grand Départ y ras yn 2015. Gwibiodd sbrintiwr o'r Eidal a chyn-bencampwr Ewrop, Elia Viviani, dros y llinell derfyn y diwrnod hwnnw, gan achub y blaen ar un o feicwyr poblogaidd y DU, Mark Cavendish, o flaen torf o tua 10,000.
Yn fwy diweddar, cynhaliodd y ddinas ddechrau Taith y Merched, chwaer ddigwyddiad y Tour of Britain, fis Mehefin diwethaf.