Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on constituents to sign up to learn more about their wonderful region and help promote tourism.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism is a keen supporter of the industry and is urging people to join Flintshire’s new Tourism Ambassador Scheme.
He said:
Everybody knows how passionate I am about encouraging and promoting tourism in North Wales and I am delighted to support a scheme which will provide people with the tools to learn more about our wonderful region.
I recently spoke in the Welsh Parliament debate on tourism called by the Conservatives as I firmly believe that North Wales is a very special place for attracting tourists and ultimately helps to boost the economy.
Flintshire have so many excellent attractions in the region and I welcome any moves to encourage people to learn more about what we have.
This free scheme is designed to improve the visitor experience by equipping people who work in tourism, work with visitors or live or study in the area with knowledge of Flintshire’s fantastic offerings. People planning to visit Flintshire for their holiday can even complete the course in preparation for a wonderful trip.
A series of interactive online training modules with quizzes have been produced on various themes such as walking and the great outdoors, Flintshire’s culture and heritage, food and drink, towns and shopping and sustainable tourism. Each module takes 15-30 minutes to complete.
There are currently two levels of awards-bronze and silver depending on the number of modules completed. Additional modules will be developed to enable Ambassadors to reach a gold award. Each Ambassador will receive a certificate for the completion of each level. There are also online resources for people to download related documents, branding and links to relevant websites.
Regular learning journeys will be offered to Ambassadors to further enhance their knowledge through site visits to places of interest within Flintshire and neighbouring authorities. The most recent journey took current Ambassadors back to the Roman era with a wonderful visit to the Roman Fort at Park in the Past in Hope. In the afternoon a ride on the train to the newly built Corwen station, followed by a tour of the town including a visit to the church and museum.
For more information on the scheme and to complete the modules please visit – https://www.ambassador.wales/
Sam Rowlands yn cefnogi Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i gofrestru i ddysgu mwy am eu rhanbarth gwych a helpu i hyrwyddo twristiaeth.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth, yn gefnogwr brwd o'r diwydiant ac mae'n annog pobl i ymuno â Chynllun Llysgenhadon Twristiaeth newydd Sir y Fflint.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog a hyrwyddo twristiaeth yng Ngogledd Cymru ac rwy'n falch iawn o gefnogi cynllun a fydd yn rhoi'r adnoddau i bobl ddysgu mwy am ein rhanbarth gwych.
Yn ddiweddar siaradais yn nadl y Senedd ar dwristiaeth a alwyd gan y Ceidwadwyr gan fy mod yn credu'n gryf bod Gogledd Cymru yn lle arbennig iawn i ddenu twristiaid ac yn y pen draw yn helpu i hybu'r economi.
Mae gan Sir y Fflint gymaint o atyniadau gwych yn y rhanbarth ac rwy'n croesawu unrhyw gamau i annog pobl i ddysgu mwy am yr hyn sydd gennym ni.
Mae'r cynllun rhad ac am ddim hwn wedi'i lunio i wella profiad ymwelwyr trwy roi’r wybodaeth i’r bobl sy'n gweithio ym maes twristiaeth, yn gweithio gydag ymwelwyr neu'n byw neu'n astudio yn yr ardal am adnoddau gwych Sir y Fflint. Gall pobl sy'n bwriadu ymweld â Sir y Fflint ar wyliau hyd yn oed gwblhau'r cwrs i baratoi ar gyfer taith wych.
Mae cyfres o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau wedi'u llunio ar wahanol themâu megis cerdded a'r awyr agored, diwylliant a threftadaeth Sir y Fflint, bwyd a diod, trefi a siopa a thwristiaeth gynaliadwy. Mae pob modiwl yn cymryd 15-30 munud i'w gwblhau.
Ar hyn o bryd mae dwy lefel o wobrau - efydd ac arian - yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu datblygu i alluogi Llysgenhadon i gyrraedd gwobr aur. Bydd pob Cennad yn derbyn tystysgrif am gwblhau pob lefel. Mae adnoddau ar-lein hefyd ar gael i bobl lawrlwytho dogfennau, brandio a dolenni perthnasol i wefannau priodol.
Bydd teithiau dysgu rheolaidd yn cael eu cynnig i Lysgenhadon i wella’u gwybodaeth ymhellach trwy ymweliadau safle â lleoedd o ddiddordeb yn Sir y Fflint ac awdurdodau cyfagos. Aeth y daith ddiweddaraf â Llysgenhadon presennol yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid gydag ymweliad hyfryd â'r gaer Rufeinig yn Park in the Past yn yr Hôb. Yn y prynhawn cafwyd taith ar y trên i orsaf Corwen sydd newydd ei hadeiladu, ac yna taith o amgylch y dref gan gynnwys ymweliad â'r eglwys a'r amgueddfa.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i gwblhau'r modiwlau, ewch i – www.llysgennad.cymru