Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on constituents to sign up to help promote North Wales during Wales Tourism Week.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism is a keen supporter of the industry in his region and is urging people to join the Wales Ambassador Scheme.
He said:
Everybody knows how passionate I am about encouraging and promoting tourism in North Wales and I am delighted to support a scheme which will provide people with the tools to learn more about our wonderful region.
Only last week I spoke in the Welsh Conservatives debate on tourism as I firmly believe that North Wales is a very special place for attracting tourists and ultimately helps to boost the economy.
Well done to Denbighshire County Council for being the first to in Wales to launch the Wales Ambassador Scheme and it is great to see that Conwy, Gwynedd, Isle of Anglesey, have since launched courses and Flintshire and Wrexham will also be following suit this year.
We have so many excellent attractions in the region and I welcome any moves to encourage people to learn more about what we have. I would urge anyone interested in signing up for the scheme to do so during Wales Tourism Week from May 15-21.
Wales Tourism Week is held annually during May to raise the profile of the tourism industry in Wales. Tourism has growing economic and social importance and is one of the largest contributors to local jobs, local businesses, and the local economy.
The Wales Ambassador Scheme is free and open to everyone and provides people with online scheme training and knowledge about the special qualities of areas in Wales.
It provides a series of online modules on a variety of themes is offered including Welsh language, communities, culture, history, landscapes, sustainable tourism, cycling and walking.
There are three levels of awards – bronze, silver and gold, depending on the number of modules completed. Rewards including certificates and badges are sent to everyone who completes the levels.
Over 3,200 people have enrolled onto at least one of the courses on the website with 2,245 achieving the bronze level certificate across all courses. Over 5,500 bronze, silver and gold certificates have been awarded to Ambassadors, not only from within Wales but from all over the UK and beyond.
Rachel Simpson from Artychoke in Llandudno who has been instrumental in setting up the schemes said:
The numbers and feedback from our Ambassadors show that people have really enjoyed the various topics in each of the courses. You can learn more about the history, food & drink, legends, attractions, and activities that are available in your area of Wales. Many Ambassadors have gone on to take more than one course! The 'Did you know' tips are particularly popular, which highlight interesting facts that bring depth and life to what is already well-known. It is great to see how many people are willing to play a part in understanding and protecting the exceptional qualities of Wales.
Tony Vitti, from Rhyl Tourist Information Centre commented:
Denbighshire's Ambassador scheme has been an invaluable tool for the Tourist Information Staff at Rhyl to keep on top of their knowledge of the area. I think the courses are a great resource. Even if you don't encounter visitors on a daily basis there's lots to learn that you may take advantage of and visit for yourself. I certainly have.
For more information on the scheme and to sign-up please visit www.ambassador.wales
Sam Rowlands yn cefnogi Cynllun Llysgenhadon Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i gofrestru i helpu i hyrwyddo Gogledd Cymru yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn gefnogwr brwd o'r diwydiant yn ei ranbarth ac mae'n annog pobl i ymuno â Chynllun Llysgenhadon Cymru.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog a hyrwyddo twristiaeth yn y Gogledd ac rwy'n falch iawn o gefnogi cynllun a fydd yn rhoi'r adnoddau i bobl ddysgu mwy am ein rhanbarth gwych.
Dim ond yr wythnos diwethaf siaradais yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth gan fy mod yn credu'n gryf bod Gogledd Cymru yn lle arbennig iawn i ddenu twristiaid ac yn y pen draw mae'n helpu i hybu'r economi.
Llongyfarchiadau i Gyngor Sir Ddinbych am fod y cyntaf yng Nghymru i lansio Cynllun Llysgenhadon Cymru ac mae'n wych gweld bod Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn wedi lansio cyrsiau ers hynny a bydd Sir y Fflint a Wrecsam hefyd yn dilyn eu hesiampl eleni.
Mae gennym gymaint o atyniadau gwych yn y rhanbarth ac rwy'n croesawu unrhyw gamau i annog pobl i ddysgu mwy am yr hyn sydd gennym ni. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer y cynllun i wneud hynny yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 15 a 21 Mai.
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn cael ei chynnal yn flynyddol yn ystod mis Mai i godi proffil y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae twristiaeth yn gynyddol bwysig yn economaidd a chymdeithasol ac mae'n un o'r cyfranwyr mwyaf at swyddi lleol, busnesau lleol, a'r economi leol.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb ac mae'n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru.
Mae'n darparu cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu a gynigir gan gynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirweddau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded.
Mae tair lefel o ddyfarniadau - efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblhawyd. Mae dyfarniadau, gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau, yn cael eu hanfon at bawb sy'n cwblhau'r lefelau.
Mae dros 3,200 o bobl wedi cofrestru ar o leiaf un o'r cyrsiau ar y wefan gyda 2,245 yn ennill y dystysgrif lefel efydd ar draws pob cwrs. Mae dros 5,500 o dystysgrifau efydd, arian ac aur wedi'u dyfarnu i Lysgenhadon, nid yn unig o Gymru ond o bob cwr o'r DU a thu hwnt.
Meddai Rachel Simpson o Artychoke yn Llandudno sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu'r cynlluniau:
Mae'r niferoedd a'r adborth gan ein Llysgenhadon yn dangos bod pobl wedi mwynhau'r amrywiol bynciau ym mhob un o'r cyrsiau. Gallwch ddysgu mwy am yr hanes, bwyd a diod, chwedlau, atyniadau a gweithgareddau sydd ar gael yn eich ardal yng Nghymru. Mae llawer o Lysgenhadon wedi mynd ymlaen i gyflawni mwy nag un cwrs! Mae'r awgrymiadau 'Oeddet ti'n gwybod' yn arbennig o boblogaidd, sy'n tynnu sylw at ffeithiau diddorol sy'n dod â dyfnder a bywyd i'r hyn sydd eisoes yn adnabyddus. Mae'n wych gweld faint o bobl sy'n fodlon chwarae rhan mewn deall a diogelu rhinweddau eithriadol Cymru.
Meddai Tony Vitti, o Ganolfan Groeso'r Rhyl:
Mae cynllun Llysgenhadon Sir Ddinbych wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i staff Gwybodaeth i Dwristiaid y Rhyl gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf am yr ardal. Rwy'n credu bod y cyrsiau'n adnodd gwych. Hyd yn oed os na fyddwch chi’n dod ar draws ymwelwyr bob dydd mae llawer i'w ddysgu y gallwch fanteisio arno ac ymweld eich hun. Yn sicr, rydw i wedi gwneud.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru, ewch i Llysgenhadon Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru (ambassador.wales)