Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales has welcomed a move to encourage more of us to talk about dementia.
Mr Rowlands, was commenting after it was announced that a special screening of films for better understanding dementia are being held in Broughton and Llandudno Junction cinemas.
He said:
As a keen supporter of any development which ultimately helps and supports people suffering from dementia and their families, it is great to see the screening of these films to highlight this dreadful disease.
The films were first shown in March this year thanks to North Wales Police and Betsi Cadwaladr University Health Board joining forces to produce them.
I am delighted to see that following the successful launch the films are now going to be shown at Cineworld cinemas in Broughton and Llandudno Junction. There will also be an opportunity to take part in a question and answer session on health and policing issues and how they can affect people suffering from dementia.
I would urge anyone wanting to find out more about dementia and how it affects lives to attend the screening of the films. I am also pleased to support the Herbert Protocol.
The two screenings will take place thanks to funding from the North Wales Police Crime Commissioner, Andy Dunbobbin, at Cineworld Broughton Shopping Park, on June 11 from 3-5pm, and at Cineworld Llandudno, Llandudno Junction, on October 1 from 3-5pm.
The showings will be followed by a question and answer session on the health and policing issues that can affect people living with dementia, or their families.
The idea for the films came from Professor Tracey Williamson, Consultant Nurse for Dementia at Betsi Cadwaladr University Health Board who said: “Through the films we hope to create a better understanding of dementia in North Wales and beyond, including how to get checked and live as well as possible with the condition.”
The films were funded by the Mental Health & Learning Disabilities Division, Betsi Cadwaladr University Health Board and match-funded by Eternal Media Ltd with the aim of the films gaining maximum reach across North Wales and beyond.
Everybody is welcome to join the planned events and admission is free. There will be an information stand on the day for useful literature about dementia.
To book to attend the screening visit: www.eventbrite.co.uk/e/bywn-well-hefo-dementia-living-better-with-dementia-tickets-906605831447
To get your copy of the Herbert Protocol visit: www.northwales.police.uk/notices/af/herbert-protocol . The Herbert Protocol is the national scheme used by police forces and emergency services across the UK to support people living with dementia who might be at risk of becoming lost or reported as missing.
Cefnogi ffilmiau dementia i dynnu sylw at y salwch yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd wedi croesawu cam i annog mwy ohonom ni i siarad am ddementia.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud sylwadau ar ôl y cyhoeddiad fod dangosiad arbennig o ffilmiau er mwyn deall dementia yn well yn cael ei gynnal yn sinemâu Brychdyn a Chyffordd Llandudno.
Meddai:
Fel cefnogwr brwd o unrhyw ddatblygiad sy’n helpu ac yn cefnogi pobl sy’n dioddef o ddementia a’u teuluoedd yn y pen draw, mae’n wych gweld y ffilmiau hyn yn cael eu sgrinio i dynnu sylw at y clefyd ofnadwy hwn.
Cafodd y ffilmiau eu dangos am y tro cyntaf ym mis Mawrth eleni diolch i Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth iddynt ymuno i’w cynhyrchu.
Rwy’n falch iawn o weld y bydd y ffilmiau’n cael eu dangos yn sinemâu Cineworld ym Mrychdyn a Chyffordd Llandudno yn dilyn y lansiad llwyddiannus. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar faterion iechyd a phlismona a sut y gallant effeithio ar bobl sy’n dioddef o ddementia.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am ddementia a sut mae’n effeithio ar fywydau i fynd i weld y ffilmiau. Rwy’n falch o gefnogi Protocol Herbert hefyd.
Bydd y ddau ddangosiad yn cael eu cynnal diolch i gyllid gan Gomisiynydd Troseddau Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, ym Mharc Siopa Cineworld Brychdyn, ar 11 Mehefin rhwng 3-5pm, ac yn Cineworld Llandudno, Cyffordd Llandudno, ar 1 Hydref rhwng 3-5pm.
Yn dilyn y dangosiadau, cynhelir sesiwn holi ac ateb ar y materion iechyd a phlismona a all effeithio ar bobl sy’n byw gyda dementia, neu eu teuluoedd.
Daeth y syniad ar gyfer y ffilmiau gan yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a ddywedodd: “Trwy’r ffilmiau rydyn ni’n gobeithio creu gwell dealltwriaeth o ddementia yn y Gogledd a thu hwnt, gan gynnwys sut i gael eich gwirio a byw cystal â phosib gyda’r cyflwr.”
Ariannwyd y ffilmiau gan yr Is-adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chafwyd arian cyfatebol gan Eternal Media Ltd gyda’r gobaith y byddai’r ffilmiau’n cyrraedd cymaint o bobl â phosibl ar draws y Gogledd a thu hwnt.
Mae croeso i bawb ymuno â’r digwyddiadau arfaethedig ac mae mynediad am ddim. Bydd stondin wybodaeth ar y diwrnod ar gyda deunydd darllen ddefnyddiol am ddementia.
I archebu lle, ewch i: www.eventbrite.co.uk/e/bywn-well-hefo-dementia-living-better-with-dementia-tickets-906605831447
I gael eich copi o Brotocol Herbert ewch i: www.northwales.police.uk/notices/af/herbert-protocol . Protocol Herbert yw’r cynllun cenedlaethol a ddefnyddir gan heddluoedd a gwasanaethau brys ledled y DU i gynorthwyo pobl sy’n byw gyda dementia a allai fod mewn perygl o fynd ar goll neu sy’n mynd ar goll.