Access to GP surgeries is extremely important in supporting patients, but also alleviating pressures on Welsh hospitals. Yet under the Labour Government in Wales, in 2012 Wales had 473 practices, but as of December 2023, this had decreased to 374.
BMA Cymru Wales’ ‘Save our Surgeries’ campaign is calling on the Labour Government to ensure 11% of NHS Wales funding is spent on general practice and to ensure Wales trains, recruits, and retains enough GPs to move towards the OECD average number of GPs per 1000 people.
In the Senedd tomorrow (15/05/24), the Welsh Conservatives are bringing forward a Senedd motion calling on the Labour Government to adopt BMA Cymru Wales’ key campaign calls, and to ensure the full Barnet consequential arising from NHS spending by the UK Government is made available for the health service in Wales.
Commenting ahead of the debate, Welsh Conservative Shadow Health Minister, Sam Rowlands MS, said:
GPs surgeries are vital in supporting patients and alleviating pressures on Welsh hospitals. It is deeply concerning that if urgent action isn’t taken, Wales will see its 100th GP practice closure in just over a decade.
In the Senedd tomorrow, I look forward to bringing forward a Welsh Conservative debate calling on the Labour Government to adopt BMA Cymru Wales’ ‘Save our Surgeries’ key campaign calls, and ensure the full Barnett consequential arising from NHS spending by the UK Government is made available for the health service in Wales.
Also commenting, Chair of BMA Cymru Wales GP Committee, Dr Gareth Oelmann, said:
The future of general practice is at risk because of longstanding underinvestment in the service. Unless urgent action is taken to address GP workload, workforce and wellbeing, the service is at risk of collapse.
GPs and their patients want the same thing. We want patients to be able to see their GP, quickly and easily, in a practice that is local to them, well-staffed and resourced, and safe. It is time GPs and their patients are listened to, and our concerns acted upon, before it is too late.
The motion which will be debated tomorrow reads:
To propose that the Senedd:
1. Notes the Access to GP Practices in Wales report published by the Older People’s Commissioner for Wales, which highlights the importance of GP practices in alleviating pressures on hospitals and supporting patients across Wales.
2. Regrets that in 2012 Wales had 473 GP practices, but as of December 2023, this has decreased to 374.
3. Further regrets that only 6.1 per cent of NHS Wales funding went towards general practice in the year 2020-21 and that less than 8 per cent of NHS Wales funding goes towards general practice at present, which is lower than in 2005-6.
4. Calls on the Welsh Government to:
a) take urgent action to ensure Wales doesn’t see it’s 100th GP practice closure in just over a decade;
b) adopt the BMA Cymru Wales Save Our Surgeries key campaign calls of 11 per cent of NHS Wales funding to be spent on general practice and produce a workforce strategy to ensure that Wales trains, recruits and retains enough GPs to move towards the OECD average number of GPs per 1000 people; and
c) ensure the full Barnett consequential arising from NHS spending by the UK Government is made available for the health service in Wales.
Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Lafur i achub meddygfeydd
Mae mynediad i feddygfeydd meddygon teulu yn hynod bwysig wrth gefnogi cleifion a lleddfu'r pwysau ar ysbytai Cymru hefyd. Ond o dan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, roedd gan Gymru 473 o bractisau yn 2012 - erbyn mis Rhagfyr 2023, roedd hyn wedi gostwng i 374.
Mae ymgyrch 'Achub ein Meddygfeydd' BMA Cymru Wales yn galw ar y Llywodraeth Lafur i sicrhau bod 11% o gyllid GIG Cymru yn cael ei wario ar ymarfer cyffredinol a sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio ac yn cadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o feddygon teulu fesul 1000 o bobl.
Yn y Senedd yfory (15/05/24), mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig i'r Senedd yn galw ar y Llywodraeth Lafur i fabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol BMA Cymru Wales, a sicrhau bod y swm canlyniadol Barnet llawn sy'n deillio o wariant y GIG gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Cyn y ddadl, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands AS:
Mae meddygfeydd teulu yn hanfodol wrth gefnogi cleifion a lleddfu pwysau ar ysbytai Cymru. Os na fydd camau brys yn cael eu cymryd, bydd y 100fed meddygfa yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd, sy’n bryder mawr.
Yn y Senedd yfory, rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth Lafur i fabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol 'Achub ein Meddygfeydd' BMA Cymru Wales, a sicrhau bod y cyllid canlyniadol Barnett llawn sy'n deillio o wariant y GIG gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Meddai Dr Gareth Oelmann, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru Wales:
Mae dyfodol ymarfer cyffredinol mewn perygl oherwydd tanfuddsoddi hirsefydlog yn y gwasanaeth. Oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â llwyth gwaith, gweithlu a lles meddygon teulu, mae'r gwasanaeth mewn perygl o chwalu.
Mae meddygon teulu a'u cleifion eisiau'r un peth. Rydym am i gleifion allu gweld eu meddyg teulu, yn gyflym ac yn hawdd, mewn practis lleol a diogel iddyn nhw, gyda digonedd o staff ac adnoddau. Mae'n hen bryd i eraill wrando ar feddygon teulu a'u cleifion, a gweithredu ar ein pryderon, cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
Mae'r cynnig a gaiff ei drafod yfory fel a ganlyn:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.
2. Yn gresynu bod gan Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.
3. Yn gresynu ymhellach mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gymryd camau brys i sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd;
b) mabwysiadu galwadau allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl;
c) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan Lywodraeth y DU, ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.