Sam Rowlands, MS for North Wales is calling on the Welsh Government to listen to the experts.
During a visit to a North Wales farm, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said he wanted more to be done to help farmers in North Wales.
Mr Rowlands, along with Janet Finch-Saunders, MS for Aberconwy, visited Cae Haidd Farm, Nebo, near Llanwrst, where he met with local farmers and representatives of NFU Cymru.
He said:
“I was very grateful to NFU Cymru’s invitation to meet with their members and discuss some of the issues facing farmers across North Wales.
“Particular concerns were raised about the control of TB and the Welsh Government’s new pan Wales Nitrate Vulnerable Zone.
“Farmers are the backbone and the lifeblood of our rural communities and play a vital role in keeping our country fed. Their views are important as they are the experts in what they do.
“The Welsh Government has continually failed to listen to farmers and it is about time they received the support they need.”
During the meeting members discussed the recent increase to NVZ from covering 3% of the country to 100% of Wales. This was despite the Welsh Government’s own environment agency, Natural Resources Wales, recommending that the NVZ only needed to cover 8%.
The NVZ requires farmers to take additional, costly measures to prevent the pollution of watercourses, even though most farmers throughout Wales, have never caused a pollution incident.
Concern was also expressed about a lack of action by the Welsh Government to control the spread of TB. There was a call for more support for those whose livestock and other wild animals were affected by TB.
Angen gwrando ar leisiau ffermwyr Cymru
Mae Sam Rowlands, AS y Gogledd, yn galw at Lywodraeth Cymru i wrando ar yr arbenigwyr.
Yn ystod ymweliad â fferm yn y Gogledd, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, ei fod am weld mwy yn cael ei wneud i helpu ffermwyr yn y Gogledd.
Bu Mr Rowland, gyda Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, yn ymweld â Fferm Cae Haidd, Nebo, ger Llanrwst, lle cafodd gyfarfod â ffermwyr lleol a chynrychiolwyr NFU Cymru.
Meddai:
“Roeddwn i’n ddiolchgar iawn cael y gwahoddiad gan NFU Cymru i gyfarfod eu haelodau a thrafod rhai o’r materion sy’n wynebu ffermwyr ledled y Gogledd.
“Mynegwyd pryderon penodol am reoli TB a chynllun Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan Llywodraeth Cymru.
“Ffermwyr yw asgwrn cefn a’r hyn sy’n rhoi bywyd i’n cymunedau gwledig ac maent yn gwneud cyfraniad hanfodol at fwydo ein gwlad. Mae eu barn yn bwysig gan mai nhw yw’r arbenigwyr ar yr hyn y maent yn ei wneud.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â gwrando ar ffermwyr yn gyson ac mae’n hen bryd iddynt dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.”
Yn ystod y cyfarfod, trafododd aelodau'r cynnydd diweddar i Barthau Perygl Nitradau o gwmpasu 3% o’r wlad i 10% o Gymru. Roedd hyn er i Cyfoeth Naturiol Cymru, sef asiantaeth amgylchedd Llywodraeth Cymru, argymell mai dim ond mewn 8% o’r wlad yr oedd angen Parthau Perygl Nitradau.
Mae’r Parthau Perygl Nitradau yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr roi mesurau ychwanegol costus ar waith i atal llygru cyrsiau dŵr, er nad yw’r rhan fwyaf o ffermwyr ledled Cymru wedi achosi llygredd erioed.
Mynegwyd pryder hefyd am ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru i reoli lledaeniad TB. Roedd cais am fwy o gymorth i’r rhai yr oedd TB wedi effeithio ar eu da byw ac anifeiliaid gwyll eraill.