Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has challenged the Welsh Government over Welsh Water discharging sewage into Welsh waterways, including Llyn Padarn in Llanberis.
Speaking in the Welsh Parliament, Sam asked the Welsh Government Minister for Climate Change,
We know that, at the end of last year, figures that were uncovered by ourselves found that, of the 184 sewage pipes operated by Welsh Water without permits in Welsh riverways, only one application had been submitted to NRW, meaning that 183 sewage pipes in Wales were operating without permits, discharging waste into our waterways, which we know has happened tens of thousands of times, in terms of that discharge into our waterways. So, in light of this, Minister, what assurances can you give me and my residents that you are taking this issue of sewage discharge seriously, so that places like Llyn Padarn can be enjoyed by people for years to come?
The Welsh Government Minister responded, acknowledging the importance of the points raised in the question.
Speaking outside of the Welsh Parliament Sam commented,
The Labour Party in the UK Parliament have been clear that sewage should never find its way into English waterways, so it’s astonishing that on the Labour Party’s watch sewage has been allowed to find its way into much loved Welsh rivers and lakes. It’s sad that Labour politicians clearly think that people in Wales should accept a lower standard of water quality than our neighbours over the border in England.
Herio Llywodraeth Cymru dros ollwng carthion i lynnoedd ac afonydd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi herio Llywodraeth Cymru ynghylch y ffaith fod Dŵr Cymru yn gollwng carthion i ddyfrffyrdd Cymru, gan gynnwys Llyn Padarn yn Llanberis.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Sam i Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru,
"Diolch i ffigurau y gwnaethom ni eu datgelu, gwyddom fod 184 o bibellau carthion yn cael eu gweithredu gan Dŵr Cymru heb drwyddedau yn afonydd Cymru ar ddiwedd y llynedd, a dim ond un cais oedd wedi'i gyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn yn golygu bod 183 o bibellau carthion yng Nghymru yn gweithredu heb drwyddedau ac yn rhyddhau gwastraff i'n dyfrffyrdd. Rydym ni’n gwybod bod hyn wedi digwydd degau o filoedd o weithiau, o ran gollwng carthion i'n dyfrffyrdd. Felly yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi a'm trigolion eich bod yn cymryd y mater hwn o ollwng carthion o ddifrif, fel bod modd i bobl fwynhau llefydd fel Llyn Padarn am flynyddoedd eto?"
Ymatebodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, gan gydnabod pwysigrwydd y pwyntiau a godwyd yn y cwestiwn.
Wrth siarad y tu allan i’r Senedd dywedodd Sam,
Mae'r Blaid Lafur yn Senedd y DU wedi datgan yn glir na ddylai carthion fyth gyrraedd dyfrffyrdd Lloegr, felly mae'n syfrdanol bod y Blaid Lafur yn gwneud dim i atal carthion rhag cael eu gollwng i afonydd a llynnoedd poblogaidd Cymru. Mae'n drist bod gwleidyddion Llafur yn amlwg yn credu y dylai pobl yng Nghymru dderbyn safon dŵr is na'n cymdogion dros y ffin yn Lloegr.