Sam Rowlands MS for North Wales is calling for measures to be taken to reduce our reliance on energy consumption.
Responding to the Statement by the Minister for Climate Change, Julie James on the Energy Price Cap he said there was a need for Great Britain as an island to become more energy self-sufficient.
I would like to join members across the Chamber in acknowledging the difficulties coming from the increase in energy costs, which will hit many hard-working families up and down the country.
There are long-term issues which need to be addressed and how we as an island nation of Great Britain become energy self-sufficient and the part that we can play in Wales, in delivering that aim.
Also measures that can be undertaken to reduce our reliance on energy consumption.
Mr Rowlands asked the Minister what would be the Welsh Government's role in tackling these long-term issues, and how would they accelerate plans to deal with the strategic opportunities which will come about from them.
Julie James said their plan was get Wales to be a net exporter of energy and they needed to take advantage of natural resources around us to exploit things like marine energy, wave power, tidal energy, wind and solar.
Mr Rowlands added:
I am pleased to hear the Welsh Government is taking on board these very real concerns as I believe they should be dealt with as a matter of real urgency. The ongoing increases in energy costs affect us all and we need to do everything we can to reduce our reliance and become more self-sufficient.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at yr angen i Brydain Fawr ddod yn hunangynhaliol o ran ynni
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn galw am fesurau i leihau ein dibyniaeth ar ynni.
Wrth ymateb i Ddatganiad Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ar y Cap ar Brisiau Ynni dywedodd fod angen i Brydain Fawr fel ynys ddod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni.
Hoffwn ymuno ag Aelodau ar draws y Siambr i gydnabod yr anawsterau sy'n deillio o'r cynnydd i'r costau ynni hyn, a fydd yn taro llawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled y wlad.
Ceir problemau hirdymor y mae angen mynd i'r afael â nhw a sut y gallwn ni fel cenedl ynys Prydain Fawr ddod yn hunangynhaliol o ran ynni a’r rhan y gallwn ni ei chwarae yma yng Nghymru i gyflawni'r nod hwnnw.
Hefyd mesurau y gellir eu cymryd i leihau ein dibyniaeth ar ddefnyddio ynni yn gyfan gwbl.
Gofynnodd Mr Rowlands i'r Gweinidog beth fyddai rôl Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r materion hirdymor hyn, a sut y byddent yn cyflymu cynlluniau i ymdrin â'r cyfleoedd strategol a ddaw yn eu sgil.
Dywedodd Julie James mai eu cynllun oedd cael Cymru i fod yn allforiwr ynni net a bod angen iddynt fanteisio ar yr adnoddau naturiol o'n cwmpas i wneud y gorau o bethau fel ynni'r môr, ynni'r tonnau, ynni'r llanw, gwynt a solar.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy’n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y pryderon gwirioneddol hyn gan fy mod yn credu y dylid ymdrin â nhw ar frys. Mae’r cynnydd parhaus mewn costau ynni yn effeithio ar bob un ohonom ni ac mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein dibyniaeth a dod yn fwy hunangynhaliol.