Sam Rowlands MS for North Wales is calling for Welsh Government to do more to help people in Wales.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was speaking during a debate on the Draft Budget 2022-23 in the Senedd.
He said:
I am sure all members across the chamber can agree that this budget has come at a difficult time, as we continue to move out of the COVID-19 pandemic. However, it is clear from our side of the chamber that this budget doesn't go far enough in delivering on the priorities of the people of Wales.
As outlined by my colleague, Peter Fox in his response to this draft budget, our local services have gone under huge pressure following the pandemic. I have mentioned many times before that it is extremely important to keep noting during this pandemic that councils, in particular, have gone above and beyond in providing exceptional services to our local communities.
In general councils have welcomed the local government settlement at a 9.4% increase on average but we have to recognise that that is after years and years of underfunding to councils across Wales
Another missed opportunity that I think is in the Welsh Government's budget is in regard to social care, and that's already been mentioned in this debate today. The Welsh Local Government Association stated that, whilst welcoming the £500 additional payments during the pandemic, they simply do not go far enough to addressing the long-term challenges of the sector, and in particular the concerns with recruitment and retaining staff in that area. This budget doesn't seem to address this issue.
When it comes to local government, parts of the Welsh Government budget are going to support councils to make that improvement, but in my view there are too many opportunities that are being missed that could have allowed councils to thrive even further and be even more sustainable.
Sam Rowlands AS yn dweud nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu pobl yng Nghymru.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn siarad yn ystod dadl ar Gyllideb Ddrafft 2022-23 yn y Senedd.
Dywedodd y canlynol:
Rwy'n siŵr y gall pob Aelod ar draws y Siambr gytuno bod y gyllideb hon wedi dod ar adeg anodd, wrth i ni barhau i symud allan o bandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n hochr ni o'r Siambr nad yw'r gyllideb hon yn mynd yn ddigon pell i gyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Fel y cafodd ei amlinellu gan fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ei ymateb i'r gyllideb ddrafft hon, mae ein gwasanaethau lleol wedi mynd o dan bwysau aruthrol yn dilyn y pandemig. Rwyf i wedi sôn droeon yn y Siambr o'r blaen ei bod yn eithriadol o bwysig dal i nodi yn ystod y pandemig hwn fod cynghorau yn arbennig wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i ddarparu gwasanaethau eithriadol i'n cymunedau lleol.
Mae cynghorau wedi croesawu'r setliad llywodraeth leol yn gyffredinol ar gynnydd o 9.4 y cant ar gyfartaledd ar draws y cynghorau hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod hynny ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o danariannu i gynghorau ledled Cymru.
Cyfle arall sydd wedi'i golli, yn fy marn i, yw yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol, ac mae hynny eisoes wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er eu bod yn croesawu'r £500 o daliadau ychwanegol yn ystod y pandemig, nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â heriau hirdymor y sector, ac yn arbennig y pryderon ynghylch recriwtio a chadw staff yn yr ardal honno. Nid yw'n ymddangos bod y gyllideb hon yn ymdrin â'r mater hwn.
O ran llywodraeth leol, mae rhannau o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi cynghorau i wneud y gwelliant hwnnw, ond yn fy marn i mae gormod o gyfleoedd yn cael eu colli a allent fod wedi caniatáu i gynghorau ffynnu hyd yn oed ymhellach a bod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy.