Sam Rowlands MS for North Wales has expressed concern over the future of the fire service in his region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, has called for a Welsh Government Statement on the future of the Fire Service in North Wales.
He said:
As someone whose brother-in-law is a firefighter, I know the extraordinary work that the fire service carry out in our communities. I am more aware of some of the challenges facing them at the moment.
One of the concerns I have is the fire service's ability to sustain itself through recruitment of retained firefighters. In the region I represent in North Wales, of the 44 fire stations, 39 of those are support by retained firefighters.
There are also great opportunities with the skills and experience that firefighters have in supporting our public services and supporting our communities more broadly. In light of that, I would be grateful to receive a statement on the future of the fire service in North Wales and in Wales more broadly.
Lesley Griffiths, the Welsh Government’s Business Minister, said she was not aware of anything specific on the issue at the moment.
Mr Rowlands added:
I am disappointed with the minister’s response. I remain concerned about future of the fire service in North Wales and in particular the ability to recruit retained firefighters.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Gwasanaeth Tân Cymru
Mae Sam Rowlands AS ar gyfer Gogledd Cymru wedi mynegi pryder am ddyfodol y gwasanaeth tân yn ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, wedi galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol y Gwasanaeth Tân yn y Gogledd.
Meddai:
Fel rhywun sydd â brawd yng nghyfraith sy’n ddiffoddwr tân, rwy'n gwybod am y gwaith eithriadol mae'r gwasanaeth tân yn ei wneud yn ein cymunedau. Rwy'n fwy ymwybodol o rai o'r heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Un o'r pryderon sydd gennyf yw gallu'r gwasanaeth tân i gynnal ei hun drwy recriwtio diffoddwyr tân wrth gefn. Yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yma yn y Gogledd, o'r 44 o orsafoedd tân, mae 39 o'r rheini wedi'u cefnogi gan ddiffoddwyr tân wrth gefn.
Mae cyfleoedd gwych hefyd gyda'r sgiliau a'r profiad sydd gan ddiffoddwyr tân i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau yn ehangach. Yng ngoleuni hynny, byddwn yn ddiolchgar o gael datganiad am ddyfodol y gwasanaeth tân yn y Gogledd ac yng Nghymru yn ehangach.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw broblem benodol ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n siomedig gydag ymateb y gweinidog. Rwy'n dal i boeni am ddyfodol y gwasanaeth tân yn y Gogledd yn enwedig y gallu i recriwtio diffoddwyr tân wrth gefn.