Sam Rowlands MS for North Wales is calling for Welsh Government to realise the potential of renewable energy projects in his region.
Mr Rowlands asked the Minister for Climate Change, Julie James, what discussions she has had with the Minister for Economy on promoting the economic benefits from renewable energy production in North Wales.
Speaking in the Senedd, he said:
I am really pleased to hear that you see the opportunities that renewable energy has for us in North Wales and Wales as a whole.
We are ambitious enough, we could see a transformation in our economy through the green economy which is right in front of us. There are a number of significant renewable energy projects popping up all over North Wales at the moment, whether it's wind, solar or marine energy.
One of my concerns, though, is not realising the full opportunity and potential we could take from those.
We need to make sure that our docks are properly utilised and that jobs can be created there, whether it is at Holyhead, Mostyn or elsewhere on the North Wales coast, and not losing those jobs to perhaps the docks at Liverpool or elsewhere.
He urged the Welsh Government to ensure specific sites were well utilised, apprenticeships were being driven in North Wales and that young people, especially, had opportunities for great jobs in the region on the back of these projects.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wireddu potensial prosiectau ynni adnewyddadwy yn ei ranbarth.
Gofynnodd Mr Rowlands i Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, pa drafodaethau yr oedd hi wedi’u cynnal â Gweinidog yr Economi wrth hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y Gogledd.
Gan siarad yn y Senedd, dywedodd:
Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn gweld y cyfleoedd sydd gan ynni adnewyddadwy i ni yn y Gogledd ac yng Nghymru yn gyffredinol.
Rydym yn uchelgeisiol iawn a gallem weld trawsnewidiad yn ein heconomi drwy’r economi gwyrdd sydd o’n blaenau. Mae llawer o brosiectau ynni adnewyddadwy pwysig yn ymddangos ledled y Gogledd ar hyn o bryd, boed yn ynni gwynt, solar neu forol.
Serch hynny, un o’m pryderon yw methu â manteisio’n llawn ar y cyfle a’r potensial y gallen ni eu cael yn eu sgil.
Mae angen i ni sicrhau bod ein dociau yn cael eu defnyddio’n iawn ac y gellir creu swyddi yma, boed yng Nghaergybi, ym Mostyn neu mewn mannau eraill ar arfordir y Gogledd, a gofalu nad ydyn ni’n colli’r swyddi hynny i ddociau Lerpwl neu ble bynnag.
Anogodd Lywodraeth Cymru i sicrhau bod safleoedd penodol yn cael eu defnyddio’n dda, bod prentisiaethau yn cael eu hannog yn y Gogledd a bod gan bobl ifanc yn arbennig gyfleoedd am swyddi gwych yn y rhanbarth yn sgil y prosiectau hyn.