Sam Rowlands MS for North Wales has commented on the latest Council Tax Empty Dwellings Regulations.
He said:
The tourism sector is so important here in Wales. We welcome around 11 million overnight domestic visitors, 87 million day visitors, around a million international visitors in normal years.
These people come to our country, spend their money, support local jobs, enjoy all that we have to offer, and in my own patch in North Wales, this sector is worth around £3.5 billion a year to our economy.
One of the big concerns that the tourism sector, are sharing with me, is the Government's latest council tax empty dwellings regulations and specifically, the criteria for self-catering accommodation.
The new changes mean they are now in line with business rates instead of council tax with properties needing to be let for 182 days, which is a 160% increase, and available to let for 252 days, which is an 80% increase.
Many people in tourism sector are shocked with these changes, and they seem to be detrimental to their livelihoods.
Mr Rowlands asked the Economy Minister, Vaughan Gething, did he think the changes were good for the sector.
The Minister said it was a challenge to strike a balance which could not be struck successfully if they did nothing and simply carried on as they were.
Mr Rowlands added:
I am extremely disappointed with the response from the Welsh Government. Tourism in my region of North Wales is vitally important for the economy of the area and businesses involved in this sector need to be supported more.
Sam Rowlands AS, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn galw am fwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru i'r sector twristiaeth
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru wedi ymateb i'r rheoliadau diweddar ar Dreth Gyngor Anheddau Gwag.
Meddai:
Mae'r sector twristiaeth mor bwysig yma yng Nghymru. Rydym yn croesawu tua 11 miliwn o ymwelwyr domestig dros nos, 87 miliwn o ymwelwyr dydd, a thua miliwn o ymwelwyr rhyngwladol mewn blynyddoedd arferol.
Mae'r bobl hyn yn dod i'n gwlad, yn gwario eu harian, yn cynnal swyddi lleol, yn mwynhau popeth sydd gennym i'w gynnig, ac mae'r sector hwn yn werth tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'n heconomi yn fy rhan i o'r Gogledd.
Un o'r pryderon mawr mae'r sector twristiaeth yn ei rannu â mi, yw rheoliadau diweddaraf y Llywodraeth ar dreth gyngor anheddau gwag, yn enwedig y meini prawf ar gyfer llety hunanarlwyo.
Mae'r newidiadau newydd yn golygu eu bod ar yr un lefel ag ardrethi busnes erbyn hyn yn hytrach na'r dreth gyngor, gydag eiddo angen ei osod am 182 diwrnod, sy'n gynnydd o 160%, ac ar gael i'w osod am 252 diwrnod, sy'n gynnydd o 80%.
Mae’r newidiadau hyn wedi peri braw i lawer o bobl yn y sector twristiaeth, ac mae’n ymddangos eu bod yn niweidiol i'w bywoliaeth.
Gofynnodd Mr Rowlands i Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a oedd e'n credu bod y newidiadau’n dda i'r sector.
Dywedodd y Gweinidog ei bod hi'n dipyn o her taro cydbwysedd, rhywbeth nad oedd modd ei wneud yn llwyddiannus pe na baent yn gwneud rhywbeth, a gwneud dim heblaw parhau fel yr oeddent.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n hynod siomedig gydag ymateb Llywodraeth Cymru. Mae twristiaeth yn fy rhanbarth i yn hollbwysig i economi'r ardal ac mae angen mwy o gefnogaeth ar fusnesau sy'n gysylltiedig â'r sector hwn.