Sam Rowlands MS for North Wales has expressed concern over the news of the loss of 120 jobs at a key economic site in his region.
Mr Rowlands, was speaking in the Senedd after it was announced that Orthios Eco Parks, based on the former 230-acre aluminium works on Ynys Mon, had gone into administration.
He said:
The announcement is clearly extremely worrying. This will and has come as a shock to many people, and it is so sad seeing the potential of many people losing their jobs.
I would certainly like to join the calls from the local MP for Ynys Môn to see a real clear plan made for that site, because the opportunities are incredible there, and it is a shame they haven't been realised yet.
Mr Rowlands asked what support the Welsh Government had provided to Orthios over recent months, before the announcement, and what steps had been made to reach out to them over recent months.
He added:
This is a key site for economic activity in North Wales and I am shocked and dismayed that this potential hasn't been realised.
Sam Rowlands AS wedi ei synnu a’i ddigalonni gyda’r cyhoeddiad bod Orthios ar Ynys Môn wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi mynegi pryder ynghylch y newyddion am golli 120 o swyddi ar safle economaidd allweddol yn ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands yn siarad yn y Senedd ar ôl y cyhoeddiad bod Orthios Eco Parks, sydd wedi’i leoli ar safle 230 erw'r hen waith alwminiwm ar Ynys Môn, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Meddai:
Mae’r cyhoeddiad yn peri gofid mawr yn amlwg. Daeth hyn fel sioc fawr i lawer, ac mae mor drist gweld y posibilrwydd y bydd llawer yn colli eu swyddi.
Rwy’n sicr yn ategu galwadau gan yr Aelod Seneddol lleol ar gyfer Ynys Môn am gynllun clir ar gyfer y safle, oherwydd mae yna gyfleoedd anhygoel yno, ac mae’n drueni nad ydyn nhw wedi’u gwireddu eto.
Gofynnodd Mr Rowlands pa gymorth roedd Llywodraeth Cymru wedi’i gynnig i Orthios dros y misoedd diwethaf, a pha gamau a oedd wedi’u cymryd i’w helpu dros y misoedd diwethaf.
Ychwanegodd:
Mae hwn yn safle allweddol ar gyfer gweithgarwch economaidd yn y Gogledd ac rwyf wedi fy synnu a’m digalonni nad yw’r potensial hwn wedi’i wireddu.