Sam Rowlands MS for North Wales is calling for more help and support for dyslexic sufferers in his region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said:
We know that around 10% of our population here in Wales is dyslexic. I know, personally, that if it is not dealt with or supported properly at a young age, it can cause some difficulties for people later on in life.
In addition, the signs and symptoms of dyslexia differ from person to person, so it is really important that any plans and support are perhaps done on an individual basis as well as the broader support that can be offered.
Mr Rowlands asked Education Minister, Jeremy Miles what was being done, within the new curriculum, to ensure those with dyslexia receive the help and support they may need as early as possible in order to help them thrive.
The Minister said the new curriculum will renew focus on literacy and drive improvement in this area.
Mr Rowlands commented:
I do hope Welsh Government will make sure there will be a renewed focus on literacy so that there is help and support for dyslexic sufferers at an early age. It is absolutely vital the problem is identified as soon as possible.
Sam Rowlands AS yn galw i’r rhai sy'n dioddef o ddyslecsia gael mwy o help a chymorth
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw am fwy o help a chymorth i ddioddefwyr dyslecsig yn ei ranbarth.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, y canlynol:
Gwyddom fod tua 10 y cant o'n poblogaeth yma yng Nghymru yn ddyslecsig. Ac rwy'n gwybod fy hun os nad yw'n cael ei drin neu os na roddir cymorth priodol tuag ato pan fydd rhywun yn ifanc, gall achosi anawsterau i bobl yn ddiweddarach mewn bywyd.
Yn ogystal â hyn, mae arwyddion a symptomau dyslecsia yn amrywio o berson i berson, felly mae'n bwysig iawn fod unrhyw gynlluniau a chymorth yn cael eu darparu ar sail unigol efallai yn ogystal â'r cymorth ehangach y gellir ei gynnig.
Gofynnodd Mr Rowlands i Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, beth oedd yn cael ei wneud, yn y cwricwlwm newydd, i sicrhau bod y rhai â dyslecsia yn cael yr help a’r cymorth angenrheidiol cyn gynted â phosibl er mwyn eu helpu i ffynnu.
Dywedodd y Gweinidog y bydd y cwricwlwm newydd yn adnewyddu’r ffocws ar lythrennedd ac yn ysgogi gwelliant yn y maes hwn.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr y bydd ffocws newydd ar lythrennedd fel bod help a chymorth ar gael i ddioddefwyr dyslecsig ifanc. Mae’n gwbl hanfodol adnabod y broblem cyn gynted â phosibl.