Sam Rowlands MS for North Wales calls on Welsh Government to make sure the Levelling-up Fund is a success.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was commenting during questions to the Finance and Local Government Minister, Rebecca Evans.
He said:
Levelling-up funding is crucial to how we will work in the future here in Wales, because there is so much that can be done to help regenerate our high streets, our town centres, tackling crime, antisocial behaviour and this money can make a real difference in those communities.
One of the aspects we support, and actually local government does support, is funding being in the hands of those local authorities, because this is devolution, and this is where it doesn't stop here at Cardiff Bay.
Sam Rowlands AS yn nodi buddion y Gronfa Ffyniant Bro i gymunedau lleol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gronfa Ffyniant Bro yn llwyddo.
Bu Mr Rowlands, y Gweinidog Cysgodol dros Lywodraeth Leol, yn trafod y mater hwn yn ystod cwestiynau i Rebecca Evans, y Gweinidog cyllid a Llywodraeth Leol, yn y Cyfarfod Llawn.
Dywedodd yr hyn a ganlyn:
Wrth gwrs, mae cyllid ffyniant bro yn hanfodol i'r ffordd y byddwn yn gweithio yn y dyfodol yma yng Nghymru, gan fod cymaint y gellir ei wneud i helpu i adfywio'r stryd fawr a chanol ein trefi, yn ogystal â mynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gall yr arian hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau hynny.
Un agwedd yr ydym ni ar y meinciau hyn yn ei chefnogi, ac y mae llywodraeth leol yn ei chefnogi, yw bod y cyllid hwnnw yn nwylo'r awdurdodau lleol hynny, gan mai datganoli yw hyn, a dyma lle nad yw'n dod i ben yma ym Mae Caerdydd.