Sam Rowlands MS for North Wales is backing a week- long celebration of Welsh food and farming.
Mr Rowlands is supporting the National Farming Union Cymru’s Celebration of Welsh Food & Farming starting on Monday June 6.
He said:
I am proud to back this excellent campaign which aims to show and celebrate the vital role our farmers play in producing food for us all.
It is an excellent idea and will give people across Wales the chance to learn more about Welsh farmers who work day in and out to produce the nation’s food.
I am also pleased to see one of the week’s activities is in North Wales where schoolchildren from Denbighshire, will have the opportunity to hear more about Welsh food and farming.
It is important people realise the contribution farmers make as they also help in other ways including enhancing the environment, boosting the Welsh economy and supporting tourism.
I shall certainly be supporting them to highlight the importance of Welsh farming to Wales and its communities.
The NFU Cymru’s week-long campaign of activities is aimed at promoting all that’s great about Welsh food and agriculture to politicians, stakeholders and the wider public.
The union’s Celebration of Welsh Food & Farming kicks off on Monday June 6 when farmers are being encouraged to use social media to highlight their important role.
On Tuesday June 7 the union will hold a special event at the Senedd in Cardiff, while on Wednesday June 7 NFU Cymru will join forces with Cows on Tour team to share the farm to fork story with Denbighshire primary school children at Coleg Cambria, Llysfasi.
The week of promotional activities finishes on Friday June 7 when members of the Senedd will be invited to visit local farmers to discuss the opportunities and challenges facing Welsh agriculture.
NFU Cymru President Aled Jones said:
There is no getting away from the fact that Welsh farming is facing significant challenges at present and has done for some time. That is why NFU Cymru felt it was really important to host this series of events to spread positive messaging about our role in feeding the nation healthy, climate friendly food, while enhancing the environment and ensuring prosperous rural communities.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch undeb ffermio i hyrwyddo amaethyddiaeth Cymru
Mae Sam Rowlands AS dros y Gogledd yn cefnogi dathliad wythnos o hyd o fwyd a ffermio Cymru.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi Dathliad NFU Cymru o Ffermio a Bwyd Cymru sy’n dechrau ddydd Llun 6 Mehefin.
Meddai:
Rwy’n falch o gefnogi’r ymgyrch wych hon sy’n ceisio dangos a dathlu rôl hanfodol ein ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd i bawb ohonom.
Mae’n syniad gwych a bydd yn rhoi’r cyfle i bobl ledled Cymru ddysgu mwy am ffermwyr Cymru sy’n gweithio ddydd a nos i gynhyrchu bwyd y genedl.
Rwyf yn falch hefyd o weld bod un o weithgareddau’r wythnos yn y Gogledd, lle bydd plant ysgol o Sir Ddinbych yn cael y cyfle i glywed mwy am fwyd a ffermio Cymru.
Mae’n bwysig bod pobl yn gwerthfawrogi’r cyfraniad mae ffermwyr yn ei wneud gan eu bod yn helpu mewn ffyrdd eraill hefyd, gan gynnwys gwella’r amgylchedd, hybu economi Cymru a chefnogi twristiaeth.
Heb os, byddaf yn eu cefnogi i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio i Gymru a’i chymunedau.
Nod yr ymgyrch wythnos o weithgareddau gan NFU Cymru yw hyrwyddo popeth sy’n dda am fwyd ac amaethyddiaeth Cymru i wleidyddion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.
Mae Dathliad yr undeb o Fwyd a Ffermio Cymru yn dechrau ddydd Llun 6 Mehefin gyda ffermwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at eu rôl bwysig.
Ddydd Mawrth 7 Mehefin, bydd yr undeb yn cynnal digwyddiad arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd, a dydd Mercher 7 Mehefin, bydd NFU Cymru yn ymuno â’r tîm Cows on Tour i rannu stori o’r fferm i’r fforc gyda phlant ysgol gynradd Sir Ddinbych yng Ngholeg Cambria, Llysfasi.
Bydd yr wythnos o weithgareddau hyrwyddo yn dod i ben ddydd Gwener 7 Mehefin pan fydd Aelodau o’r Senedd yn cael eu gwahodd i ymweld â ffermwyr lleol i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru.
Meddai Aled Jones, Llywydd NFU Cymru:
Does dim gwadu bod ffermio yng Nghymru’n wynebu heriau mawr ar hyn o bryd ac wedi gwneud ers cryn amser. Dyna pam mae NFU Cymru yn teimlo ei bod yn bwysig iawn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ledaenu’r negeseuon positif am ein rôl yn bwydo bwyd iach i’r genedl sy’n ystyriol o’r hinsawdd, gan wella’r amgylchedd a sicrhau cymunedau gwledig llewyrchus.