Sam Rowlands MS for North Wales has called for more to be done to support veterans in Wales.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, asked Hannah Blythyn, Deputy Minister for Social Partnership, what action the Welsh Government were taking.
He said:
Recently I had the pleasure of meeting the Royal British Legion and they are looking to extend housing priority need to cover five years for those who have left military service. Also, as in place in England, to ensure that divorced or separated spouses and partners of service personnel in Wales can access housing support on the same terms as other armed forces families.
What consideration have you had to extend the housing priority need and what discussions are you having with representatives of veterans to ensure that their important concerns are looked at?
The Minister said:
I thank the member for his considered question. The point you made, our programme for government does set out our commitment to reform housing law and implement the homeless action group's recommendations to fundamentally reform homelessness services to focus on prevention and rapid rehousing.
As part of this reform, I can say that Welsh Government will consider the points that you raised and the Royal British Legion have raised as well.
Mr Rowlands added:
I was delighted to hear the response from the Minister and look forward to seeing Welsh Government progress the housing reforms and demonstrate their commitment to our veterans.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi cyn-filwyr ymhellach
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw am wneud mwy i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, i Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, pa gamau oedd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.
Meddai:
Yn ddiweddar cefais y pleser o gwrdd â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ac maen nhw'n ystyried ymestyn yr angen blaenoriaethol am dai ar gyfer rhai sydd wedi gadael gwasanaeth milwrol i bum mlynedd. Hefyd, sicrhau bod partneriaid personél y lluoedd arfog yng Nghymru sydd wedi gwahanu neu gael ysgariad yn gallu cael yr un cymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y lluoedd arfog.
Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ehangu'r angen blaenoriaethol am dai a pha drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda chynrychiolwyr cyn-filwyr i sicrhau eich bod yn ystyried eu pryderon pwysig?
Dywedodd y Gweinidog:
Diolch i'r aelod am ei gwestiwn ystyriol. O ran y pwynt a wnaethoch, mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddiwygio’r gyfraith dai a rhoi ar waith argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd er mwyn diwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym.
Fel rhan o'r gwaith diwygio hwn, gallaf ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y pwyntiau a godwyd gennych chi a gan y Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Roeddwn wrth fy modd o glywed ymateb y Gweinidog ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith diwygio o ran tai ac yn dangos eu hymrwymiad i'n cyn-filwyr.