Sam Rowlands MS for North Wales is urging Members of the Senedd to mark Men’s Health Week and raise awareness of the issues disproportionately impacting men.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was making a 90-second Statement in the Welsh Parliament on Men’s Health Week.
He said:
This week marks Men's Health Week 2022, a week that aims to raise awareness around the health issues that affect men disproportionately, whilst focusing on encouraging men to become aware of problems they may have or could develop, whilst encouraging them to gain the courage to do something about it.
Some of these statistics regarding men's health are quite alarming. As we sadly know, three out of four suicides are committed by men, 12.5 per cent of men suffer from mental health disorders, and men are nearly three times more likely than women to become alcohol dependent. Men are also more likely to use and die from illegal drugs. All of this and more culminates in the fact that the ultimate indicator of health, our life expectancy, means that men die four years younger than women in the UK.
I would urge all Members of the Senedd to join me in taking the opportunity to mark Men's Health Week, raise awareness of the issues facing men, and also encourage them to do something about it.
Sam Rowlands AS yn nodi Wythnos Iechyd Dynion 2022
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn annog Aelodau o’r Senedd i nodi Wythnos Iechyd Dynion a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio’n anghymesur ar ddynion.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn gwneud Datganiad 90 eiliad yn Senedd Cymru ar Wythnos Iechyd Dynion.
Dywedodd:
Mae’r wythnos hon yn nodi Wythnos Iechyd Dynion 2022, wythnos sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r materion iechyd sy’n effeithio’n anghymesur ar ddynion, tra’n canolbwyntio ar annog dynion i ddod yn ymwybodol o broblemau a all fod ganddynt neu y gallent eu datblygu, tra’n eu hannog i fagu’r dewrder i wneud rhywbeth amdano.
Mae rhai o'r ystadegau hyn am iechyd dynion yn eithaf brawychus. Fel y gwyddom yn anffodus, mae tri o bob pedwar hunanladdiad yn cael eu cyflawni gan ddynion, mae 12.5 y cant o ddynion yn dioddef o anhwylderau iechyd meddwl, ac mae dynion bron deirgwaith yn fwy tebygol na menywod o ddod yn ddibynnol ar alcohol. Mae dynion hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon a marw oherwydd hynny. Mae hyn oll a mwy yn arwain at y ffaith bod y dangosydd iechyd yn y pen draw, sef ein disgwyliad oes, yn golygu bod dynion yn marw bedair blynedd yn iau na menywod yn y DU.
Byddwn yn annog holl Aelodau o’r Senedd i ymuno â mi i achub ar y cyfle i nodi Wythnos Iechyd Dynion, codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu dynion, a hefyd eu hannog i wneud rhywbeth yn ei gylch.