Sam Rowlands MS for North Wales is calling on farmers in his region to enter a competition to recognise their contribution to farming enterprises.
Mr Rowlands, a keen supporter of farmers, is backing NFU Cymru and sponsors Wynnstay Group Plc, who have launched the Sustainable Agriculture Award for the second year running.
He said:
This is a wonderful opportunity for farmers in North Wales to highlight examples of their sustainable farming ideas and enterprises.
We all know how hard our farmers work every day to keep the nation fed and it is good to see an award which recognises the contribution Welsh farming enterprises make to Wales
There are many farmers across my region who have stepped outside the box and developed ideas which have become very successful and I would urge everyone to enter the competition.
The NFU Cymru / Wynnstay Group PLC Sustainable Agriculture Award will be awarded to the farm or farmer who, in the round, can demonstrate a commitment to the production of high-quality food to world leading standards; demonstrate their positive contribution to protecting, maintaining and enhancing the quality of the farmed environment and demonstrate their involvement and contribution to the rural economy, rural community and Welsh culture.
NFU Cymru President Aled Jones said:
The NFU Cymru / Wynnstay Group PLC Sustainable Agriculture Award aims to recognise the economic, environment, social and cultural contribution of farming in Wales and will be awarded to the farmer judged to have achieved the most outstanding example of sustainable farming business in Wales.
Nominations are invited from farms and/or farmers throughout Wales. Farmers can nominate themselves or they can be nominated by friends, relatives or organisations. Nomination forms are available for download from the NFU Cymru website. Alternatively, please contact the NFU Cymru office on 01982 554200 or email [email protected]
Shortlisted candidates will be interviewed at their farm by the judging panel during September and October and the winner will be announced at the NFU Cymru Conference on Thursday October 22 2022.
The winner of the award will receive £500 and a commemorative accolade. The closing date for entries is Monday September 5 2022.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy
Mae Sam Rowlands, AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, yn galw ar ffermwyr yn ei ranbarth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n cydnabod eu cyfraniad at fentrau ffermio.
Mae Mr Rowlands yn awyddus iawn i gynorthwyo ffermwyr, ac mae’n cefnogi NFU Cymru a’r noddwyr, Wynnstay Group Ccc, sydd wedi lansio’r Wobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy am yr ail flwyddyn yn olynol.
Meddai:
Dyma gyfle ardderchog i ffermwyr yn y Gogledd arddangos enghreifftiau o’u syniadau a’u mentrau ffermio cynaliadwy.
Mae pawb yn gwybod bod ein ffermwyr yn gweithio’n galed iawn bob dydd i fwydo’r genedl, ac mae’n dda bod gwobr ar gael sy’n cydnabod cyfraniad mentrau ffermio yng Nghymru.
Mae llawer o ffermwyr ymhob rhan o’r rhanbarth wedi mynd ati i ddatblygu syniadau arloesol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Bydd Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy NFU Cymru / Wynnstay Group CCC yn cael ei dyfarnu i’r fferm neu’r ffermwr sy’n gallu arddangos ymrwymiad cyffredinol i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel gyda’r gorau yn y byd; arddangos cyfraniad cadarnhaol at warchod, cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd sy’n cael ei ffermio, ac arddangos cyfraniad at yr economi wledig, y gymuned wledig a diwylliant Cymru.
Meddai Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:
Nod Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy NFU Cymru / Wynnstay Group CCC yw cydnabod cyfraniad economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ffermio yng Nghymru. Bydd yn cael ei dyfarnu i’r busnes ffermio sy’n cael ei farnu fel yr un mwyaf cynaliadwy yng Nghymru.
Mae enwebiadau’n cael eu gwahodd gan ffermydd a/neu ffermwyr o bob rhan o Gymru. Gall ffermwyr enwebu eu hunain neu gael eu henwebu gan ffrindiau, perthnasau neu sefydliadau. Mae ffurflenni enwebu ar gael i’w lawrlwytho o wefan NFU Cymru. Fel arall, ffoniwch swyddfa NFU Cymru ar 01982 554200 neu e-bostiwch [email protected]
Bydd y panel beirniaid yn ymweld â ffermydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer er mwyn cyfweld â nhw ym mis Medi a mis Hydref, a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghynhadledd NFU Cymru ddydd Iau 22 Hydref 2022.
Bydd enillydd y wobr yn derbyn £500 a gwobr goffaol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 5 Medi 2022.